Helo, fy enw i yw Lois a dwi bellach wedi gorffen fy ail flwyddyn yn astudio Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac yn edrych ymlaen at ddechrau’r drydedd ym mis Medi.
Wedi fy magu yn Nyffryn Nantlle, ble mae cymuned Gymraeg mor gryf, roedd gwneud y penderfyniad i barhau fy astudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gam naturiol i mi. Ers gadael yr ysgol, dwi wedi manteisio ar y cyfleoedd o dderbyn a chwblhau fy ngwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth astudio’r Gymraeg fel un o fy mhynciau lefel A, roedd yn glir i mi fy mod i’n mwynhau dysgu, datblygu a defnyddio’r iaith. O ystyried hyn, roedd hi’n bwysig i mi fy mod i’n gallu parhau i ddefnyddio fy iaith gyntaf yn academaidd wrth symud ymlaen i’r brifysgol yng Nghaerdydd.
Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Wrth edrych yn ôl ar fy nwy blynedd ddiwethaf yn y Met, un o’r pethau sy’n sefyll allan i mi yw’r profiadau ‘dw i wedi ennill wrth astudio yn y Gymraeg. Ar fy niwrnod cyntaf ar y Campws yng Nghyncoed, doeddwn i ddim yn adnabod neb ac rwy’n cofio teimlo’n bryderus am hynny.
Beth bynnag, ar ôl hanner awr o fod ar y campws, cefais wâdd gan un o’r darlithwyr i ymuno â grwp o fyfyrwyr Cymraeg i gael paned. Erbyn gadael y campws y diwrnod hwnnw, roeddwn i wedi dod i adnabod criw o fyfyrwyr yn ogystal â’r tiwtoriaid Cymraeg. Yn dilyn hyn, roeddwn i’n mynychu darlithoedd a seminarau ble roedd modd astudio trwy’r Gymraeg.
Dwi wrth fy modd gyda’r sesiynau yma, maen nhw wastad yn teimlo’n anffurfiol ac yn gartrefol, a gan mai criw bach ydyn ni, mae’n haws cael trafodaethau ac i ofyn cwestiynau. Mae’r tiwtoriaid wastad yn barod i helpu ac nid yw unrhyw beth yn ormod o drafferth. Mae cychwyn yn y brifysgol yn gallu bod yn gyfnod heriol, ond i mi roedd hi’n haws o wybod bod y cymorth yma ar gael i mi.
Ysgoloriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cwpl o ddyddiau mewn i fy mlwyddyn gyntaf, bu son fy nhiwtor am yr ysgoloriaethau oedd Y Coleg Cymraeg yn eu cynnig. Heb feddwl dwywaith, ymgeisiais am yr ysgoloriaeth cymhelliant. Roeddwn yn ddigon ffodus o dderbyn yr ysgoloriaeth yma gan y coleg, sy’n £500 y flwyddyn dros dair blynedd.
Llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Erbyn hyn, dwi hefyd yn llysgennad i’r Coleg Cymraeg a gwir yn mwynhau’r profiad. Mae’r coleg mor groesawgar ac felly mae’n braf cael cyd-weithio gyda nhw a hyrwyddo’r holl waith maen nhw’n gwneud dros fyfyrwyr Cymraeg. Mae bod yn llysgennad i’r coleg yn brofiad gwych gan fod y gwaith yn amrywio gymaint, un diwrnod gallwch fod yn cyflwyno mewn ysgol a’r nesa byddwch yn gwneud ‘insta take-over’ neu bodlediad.
Mae ‘na wastad rhywbeth yn mynd ymlaen gyda’r coleg, ‘dw i mor falch fy mod i wedi manteisio ar eu cyfleodd gan eu bod nhw wedi bod yn gymorth i mi ddatblygu fy hyder ar ôl cychwyn yn y brifysgol, mae’r Met hefyd wedi bod yn wych yn fy nghefnogi wrth gwblhau rhannau o fy ngradd trwy gyfrwng y Gymraeg ac felly buaswn yn annog i unrhyw un wneud y mwyaf o’u Cymraeg yno!





