Skip to content

Manteisio ar bob cyfle: Fy mhrofiad ar y cwrs Blas ar Ddysgu ym Met Caerdydd

phoebe featured photo
phoebe featured photo

Helo, fy enw i yw Olivia Bear, myfyrwraig ar y cwrs BA (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) ym Met Caerdydd. Rwy’n awyddus i ddilyn y cwrs TAR Addysg Gynradd ym Medi 2023.  

Ers ysgol uwchradd, rwyf wedi eisiau dilyn gyrfa ym Myd Addysg, ond roeddwn ddim wir yn siŵr os oeddwn eisiau addysgu Addysg Gorfforol mewn ysgol uwchradd neu addysgu mewn ysgol gynradd. Felly, wnaeth  ymgymryd â’r cwrs Blas ar Ddysgu atgyfnerthu fy mhenderfyniad i ddilyn gyrfa yn addysgu mewn ysgol gynradd. Hefyd, ar ôl dderbyn addysg gynradd ac uwchradd trwy’r Gymraeg fy hun, roeddwn yn sicr fy mod eisiau addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth i’r cyfle i fynychu’r cwrs Blas ar Ddysgu codi nes i gymryd mantais o’r cyfle yn syth. 

Mae’n bwysig nodi bod y cwrs Blas ar ddysgu yn cynnig y profiad i brofi bob pwnc ysgol uwchradd ac addysg gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cwrs yn para wythnos ac yn darparu rhagflas arbennig i’r cwrs TAR go iawn.  Cynnwys y diwrnod cyntaf yw trafodaeth a dysgu am beth sy’n ddisgwyliedig, rheolau a disgwyliadau proffesiynol. Yna, am y tri diwrnod nesaf byddwch yn derbyn lleoliad mewn ysgol. Pwrpas y tri diwrnod yw cynnig cyfle i brofi bwrlwm ysgol.  Roedd yr ychydig ddyddiau yma wedi rhoi profiad newydd gan fy mod wedi cael y rhyddid i ddewis pa flwyddyn roeddwn i eisiau arsylwi ac i gymryd rhan mewn sawl agwedd o fywyd ysgol. Roedd y  diwrnod olaf yn cynnwys trafod ein profiadau a beth y dysgom a ‘top tips’ ar sut i ysgrifennu cais am le ar y cwrs TAR ym Met Caerdydd. Rhoddodd hyn fantais aruthrol i ni gan ein bod yn cael ein dysgu’n uniongyrchol gan ddarlithwyr y cyrsiau TAR cynradd ac uwchradd. Roedd hefyd cyfle i ni ofyn cwestiynau penodol am y cwrs. 

Os nad oes unrhyw brofiad ysgol gennych yn barod, peidiwch â phoeni o gwbl, mae’r athrawon yn yr ysgol â’r darlithwyr sy’n rhedeg y cwrs yna i’ch helpu. Mae’r darlithwyr â’r athrawon yn wych, maen nhw eisiau eich helpu cymaint gallent fel eich bod yn cael profiad ysgol gyfoethog. Er efallai bod mynd mewn i ysgol newydd fel oedolyn yn brofiad newydd, mae’n bwysig cofio bod pawb wedi bod yn yr un sefyllfa pe bai’n darlithwyr neu athrawon. Ar ôl eich bore / diwrnod cyntaf byddwch yn dechrau ymgartrefu. Pwrpas y cwrs yw darparu rhagflas, nid i’ch asesu. 

‘Top tips’ i bawb sydd am wneud y cwrs. Ceisiwch ennill cymaint profiad mewn ysgolion y gallech. Os oes gennych brofiad blaenorol mewn ystafell dosbarth cyn y cwrs, bydd hyn yn helpu eich hyder wrth fynd mewn i ysgol newydd. Ond, os nad oes profiad genych, paid â phoeni o gwbl, mae’r athrawon yn yr ysgol â’r darlithwyr sy’n rhedeg y cwrs yna i’ch helpu. Mae’r darlithwyr â’r athrawon yn wych, maen nhw eisiau eich helpu cymaint gallent er lles caniatáu cyfle i gyfoethogi a gwella eich profiad. ‘Top tip’ mwyaf yw peidiwch â phoeni neu pryderi ormod. Er bod mynd mewn i ysgol newydd yn wneud i chi teimlo’n bryderus, mae’n bwysig cofio bod pawb wedi bod yn yr un sefyllfa pe bai’n darlithwyr neu athrawon. Ar ôl eich bore / diwrnod cyntaf byddwch chi’n goroesi. Pwrpas y cwrs yw darparu rhagflas, nid i’ch asesu.

Dysgais lawer wrth fanteisio ar hyn. Peth gorau i mi oedd y cyfle i allu dysgu dosbarth neu grŵp bach ar ben fy hun. Mae addysgu mewn ysgol hollol wahanol i’r hyn rydw i wedi arfer ag ef, ac arsylwi arddulliau addysgu newydd wedi rhoi mewnwelediad newydd i mi. Rwyf wedi dod i ffwrdd gyda mwy o wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad y gallaf ryw ddydd ei chymhwyso at addysgu. 

Byddaf yn argymell i bawb manteisio ar y cyfle gan eu bod yn darparu’r rhagflas i’ch dyfodol, ac mae modd cael profiad hollol wahanol mewn maes gwahanol ar eich telerau eich hunain. Mwyaf profiad bydd gennych, mwyaf cyfoethog byddwch i’r byd gwaith.  Felly, ewch amdani! 

 

 

Darganfod mwy am y cwrs Blas ar Ddysgu mewn Cynradd neu Uwchradd ym Met Caerdydd