Skip to content

Manteisio ar yr iaith Gymraeg i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf gyda fy nghwrs TAR Addysg Gynradd

Katie Davies header
Katie Davies

Katie Davies header

Helo! Fy enw i yw Katie Davies ac rydw i newydd raddio ar ôl astudio’r cwrs TAR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Graddiais o’r Brifysgol yma yn 2016 gyda dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Addysg a Phlentyndod Cynnar, ac felly roeddwn yn awyddus iawn i ddod yn ôl eleni i barhau gyda fy addysg bellach. 

, Manteisio ar yr iaith Gymraeg i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf gyda fy nghwrs TAR Addysg Gynradd, CARDIFF MET BLOG
Dyma blant blwyddyn 1 a 2 yn ystod amser cylch ar gyfer wythnos gwrth-fwlio gan ddefnyddio’r arbrawf afal

Yn wreiddiol, ymgeisiais am y cwrs Saesneg gan nad oeddwn yn ddigon hyderus gyda fy iaith Gymraeg. Er roeddwn wedi gweithio fel cynorthwywraig yn Ysgol Cymraeg cyn cychwyn y cwrs roeddwn yn ymwybodol o’r pwysau’r cwrs TAR. Roeddwn yn sicr fy mod i wedi gwneud y penderfyniad cywir.

Yn unol â’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, roedd yna lawer o bwyslais ar ddatblygu iaith Gymraeg pob myfyriwr. Roedd yn hanfodol bod pob myfyriwr yn cael 25 awr o wersi Cymraeg, waeth beth fo’u allu – ac roedd hyn yn braf iawn i weld!

Ar ôl mynychu darlith gan y Darlithydd Cymraeg yn sôn am y newidiadau ar bwysigrwydd yr iaith Gymraeg ar y cwrs eleni, dechreuais gwestiynu fy mhenderfyniad. Wrth wrando arni, rhannais yr un angerdd tuag at ein hiaith. Teimlaf mor ffodus i allu siarad Cymraeg, ac yn y foment honno, penderfynais ni fyddaf yn gadael yr ystafell heb newid i’r cwrs Cymraeg – dydw i ddim wedi edrych yn ôl!

Gydag ond 22 ohonom ni ar y cwrs eleni, teimlais fel rhan o deulu bach. Roedd dysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg yn fuddiol iawn i fy natblygiad, a gydag amser yn allweddol i fy hyder personol. Mae’r sesiynau Prifysgol wedi bod yn hanfodol i sicrhau fy mod i’n datblygu ac yn meithrin siaradwyr Cymraeg a hyderus y dyfodol.  Yn ogystal â hyn, rydw i wedi gwneud ffrindiau am byth a theimlaf mor gryf dros ein rôl fel athrawon ifanc, newydd. Mae fy amser yn y brifysgol wedi fy ysbrydoli i fod yn eiriolwr yr iaith Gymraeg, i sicrhau dyfodol addysg Gymraeg!

, Manteisio ar yr iaith Gymraeg i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf gyda fy nghwrs TAR Addysg Gynradd, CARDIFF MET BLOG
Roedd cael y cyfle i fynychu 15 diwrnod mewn ysgolion arweiniol yn wych i ddysgu am themau newydd, i gael mewnwelediadau o safbwynt gwahanol ac i drafod gyda’r plant am eu profiadau yn yr ysgol honno.

Ers plentyn ifanc iawn, roedd gen i’r dyhead i fod yn athrawes Ysgol Gynradd ac roedd fy ymarfer clinigol wedi atgyfnerthu hyn ym mhellach. Cefais fy mhrofiad addysgu gyntaf mewn Ysgol Cymraeg yn y Rhondda – fy nghartref. Roeddwn mor gyffrous i gael y cyfle i roi yn ôl i fy nghymuned a’r gallu i ddarparu profiadau bythgofiadwy i blant y Rhondda. Dyma ble datblygais fy sylfaenai ymhellach wrth addysgu dosbarth cymysg blwyddyn 1 a 2. Roedd yn hyfryd cael y cyfle i weithredu’r sgiliau a dealltwriaeth newydd a ddysgais yn y Brifysgol i allu darparu cyfleoedd newydd i’r plant.

Cefais fy ail brofiad mewn ysgol arweiniol yn Sir Caerffili. Addysgais ddosbarth blwyddyn 5 ac roedd yn braf iawn bod mewn ysgol sydd yn peilota’r Cwricwlwm newydd. Rhoddodd y profiad yma mewnwelediad unigryw i mi ble datblygais ddulliau newydd a syniadau arloesol. Roedd yn wych cael y cyfle i gynrychioli’r Brifysgol a datblygu’r bartneriaeth yn gadarnhaol. 

Cawsom 15 diwrnod o hyfforddiant o fewn ysgolion arweiniol yn ystod y flwyddyn a bu’r rhain yn werthfawr iawn i fy natblygiad proffesiynol parhaus. Roedd yn werthfawr cael y cyfle i adeiladu ar yr hyn roeddwn wedi dysgu yn y Brifysgol ac i rwydweithio gydag amrywiaeth o athrawon ac aelodau’r tîm arweiniol. Trafodom am ymchwil, theori a damcaniaethau yn ogystal â chydweithio gyda’n cyd-fyfyrwyr gyda gweithgareddau a rhannu syniadau.

, Manteisio ar yr iaith Gymraeg i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf gyda fy nghwrs TAR Addysg Gynradd, CARDIFF MET BLOG

Tafliad nôl i 2016. Dydw i erioed wedi teimlo mor falch o fy hun, yn graddio o Brifysgol wych, mewn lleoliad anhygoel. Edrychaf ymlaen at y seremoni graddio ‘go iawn’ blwyddyn nesaf

Un o fy hoff sesiynau oedd dysgu am Feddylfryd Twf a’i sefyllfa mewn addysg a’r pwysigrwydd datblygu plant gwydn. Mae’r cyfle yma wedi cael dylanwad cadarnhaol ar fy athroniaeth ar fath athrawes hoffwn fod. Teimlaf yn ffodus iawn i gael y cyfleoedd yma a chredaf fod y Brifysgol wedi ein paratoi ar gyfer y byd addysg wrth sicrhau ein bod ni’n gyflogadwy gyda’r sgiliau, priodoleddau ac agwedd cywir i lwyddo fel athrawon.

Mae’r cwrs TAR eleni yn un hollol newydd, ond yn un sydd wedi cyflwyno profiadau a chyfleoedd anhygoel i mi fel myfyrwraig. Rydw i wedi dysgu sgiliau newydd, cael y cyfle i fynychu cynadleddau pwysig, cwrdd â phobl broffesiynol, a hyd yn oed gwrando ar Yr Athro Graham Donaldson yn siarad – am brofiad gwych! Ni yw’r garfan gyntaf i ddysgu am y Cwricwlwm newydd, ac mi oedd hyn yn heriol ar rhai adegau. Ond, gyda’r cymorth ac arweiniad y Brifysgol rydw i wedi llwyddo fel darpar athrawes.

Daeth fy amser yn y brifysgol ac ar ymarfer clinigol i ben yn sydyn o ganlyniad i Covid-19. Er nad oedd unrhyw yn ei ddisgwyl neu wedi paratoi ar ei chyfer, teimlaf yn ddiolchgar iawn i’r Brifysgol, ac yn gwerthfawrogi pob dim mae’r staff wedi gwneud yn ystod yr amser dan glo.  Mae’r darlithwyr wedi sicrhau tryloywder yn ystod yr amser anodd yma, wedi cadw mewn cysylltiad trwy Microsoft Teams, paratoi sesiynau rhithwir i allu dysgu o bell ac wedi ein cefnogi ar hyd y ffordd. Doedd o ddim yn hawdd, ond yn werth chweil.

Fel mae’r Saeson yn dweud, “good things come to people that wait”, ac yn ystod amser rhyfedd iawn, rydw i  wrth fy modd fy mod i wedi derbyn swydd mewn ysgol arbennig mewn cymuned agos iawn y fy nghalon. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn i ddechrau fy ngyrfa mewn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn ym Mis Medi, i fod nôl yn yr ystafell ddosbarth, yn manteisio ar yr iaith Gymraeg i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf!