Derith Rhisiart

Flynyddoedd yn ôl doedd dim llawer o ddewisiadau ar gael yn ein hysgol ni i astudio pynciau diddorol ac roedd yna ddisgwyliad i chi fod yn athro neu i fod yn berfformiwr/actor.

Doeddwn i ddim eisiau bod yn athro gan fod fy rhieni yn dysgu a doeddwn i ddim yn gallu actio. Derbyniais fy addysg gychwynnol yn ddwyieithog, gan fwyaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

Doedd gen i fawr o syniad beth i’w wneud nesaf – yn y diwedd penderfynais wneud gradd B.A. mewn Astudiaethau Busnes. Wnaeth hynny ddim fy ysbrydoli ryw lawer ac ar ôl dilyn cwrs M.A. mewn Ieithyddiaeth y Gymraeg yng Nghaerdydd, fe es i weithio yn y cyfryngau. Bum yn gweithio am nifer o flynyddoedd ym maes plant, adloniant ysgafn a newyddiaduraeth a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Ers yn blentyn roedd gen i ddiddordeb mawr mewn pobl a’r ffordd yr oeddynt yn ymddwyn – roedd Sherlock Holmes yn arwr i mi ers pan oeddwn i’n dair oed. Am flynyddoedd bum yn darllen a synfyfyrio am fod yn Seicolegydd ac un diwrnod, dyma fi’n penderfynu i fynd amdani – galwch hyn yn ‘mid-life crisis’!

Wedi blynyddoedd o astudio, llwyddais i gael gradd BSc mewn Seicoleg ac yna fy MSc mewn Seicoleg Iechyd. Yn anffodus, ni lwyddais i ddilyn y cyrsiau yma drwy gyfrwng y Gymraeg,  ond pan gododd y cyfle i astudio PhD Seicoleg Iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan, Caerdydd yn ddiweddar, fe fachais ar y cyfle i wneud hynny. Mae’r profiad hyd  yma wedi bod yn werth chweil, yn hynod o galed ond yn werth pob eiliad.

Mae fy ngwaith ymchwil yn edrych ar ddwyieithrwydd, nodir fod yna ddiffyg gwasanaethau ar gyfer cleifion dwyieithog oherwydd y diffyg hyfforddiant a’r anogaeth i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd proffesiynol.

Awgrymir bod siaradwyr dwyieithog yn cynhyrchu mwy o emosiynau wrth drafod materion yn eu mamiaith ac o bosib yn ffafrio derbyn therapi yn yr iaith honno. Math o gwnsela yw cyfweld ysgogiadol (CY); mae’n ddull person-canolog sy’n annog cleientiaid i newid. Dau ffactor pwysig yn y broses yma yw’r berthynas therapiwtig ac emosiwn. Nod yr ymchwil fydd i lunio rhaglen hyfforddiant CY yn Gymraeg i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd. Fy ngoruchwylwyr yw Dr Delyth James a Dr Mirain Rhys.

Rhaid dweud, mae cael y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac i ymchwilio i faterion Cymraeg/Cymreig yn hynod gyffrous ac mae’r Met yn Brifysgol groesawgar gyda staff sy’n gefnogol ac yn barod i helpu bob amser.