Skip to content

Fy mhrofiad fel Arweinydd Strategol i’r Ddarpariaeth Gymraeg yn yr Ysgol Reoli

gareth williams
gareth williams

Anodd credu, ond dwi wedi bod ynghlwm gydag addysg, ac addysg Busnes yn benodol, ers dros 30 mlynedd, a dwi’n wirioneddol ddiolchgar i Brifysgol Metropolitan Caerdydd am gynnig y cyfle i mi fod yn ddarlithydd Busnes yn yr Ysgol Reoli ers 3 mlynedd bellach.  Dwi hefyd yn ddiolchgar i’r Brifysgol ac i’r Ysgol Reoli am roi cymaint o gefnogaeth i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg – mae’n fraint gallu cynnig graddau Busnes, Marchnata Twristiaeth a Digwyddiadau fel rhan o’r ‘fwydlen’ presennol, gyda mwy i ddod! Dwi hefyd yng nghanol cwrs Cymrodoriaeth i’w gwblhau erbyn mis Medi.


Fy rôl fel Arweinydd Strategol i’r Iaith Gymraeg yn yr Ysgol Reoli

Ers mis Ionawr 2023, dwi wedi ymgymryd â’r rôl o Arweinydd Strategol Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg yr Ysgol Reoli gyda’r nod o gynyddu y nifer o fyfyrwyr a chyrsiau cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol.  Mae’n bleser cydweithio gyda thîm o ddarlithwyr sy’n rhoi eu gorau i sicrhau y lefel uchaf o wasanaeth a darpariaeth ag sy’n bosibl. Rydym yn barod yn sicrhau bod y ddarpariaeth ar gael i bob myfyriwr o fewn yr Ysgol, ac yn gymwys at ysgoloriaeth cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth astudio o leiaf 40 credyd trwy’r Gymraeg. Mewn sefydliad mor fawr gyda chymaint o fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd, mae’n her enfawr i sicrhau bod y Gymraeg yn cael sylw teilwng, ond araf bach…

Ein nod hir dymor yw medru cynnig modiwlau a llwybr gradd sydd yn unigryw ac wedi gwahaniaethu o’r ddarpariaeth Saesneg – llwybr gyda ‘brand Cymreig a Chymraeg’, yn darparu addysg i ddatblygu arweinwyr dwyieithog y dyfodol. Bydd hyn yn anhygoel o uchelgeisiol, ond mae’r awydd cryf gennym i sicrhau yr hyfforddiant ac addysg mwya priodol i fyfyrwyr, gweithlu a rheolwyr trwy gyfrnwg y Gymraeg.

Er bod gennyf lwyth o brofiad ym myd addysg, mae’r cyfle newydd yma yn y Met yn un o gyfnodau mwya cyffrous fy ngyrfa – dysgu Busnes …i fyfyrwyr…yn Gymraeg…yn ein prifddinas…50 cam i ffwrdd o siop goffi a chacennau…”what’s not to love!”.