Skip to content

Pam astudio’n ddwyieithog?

, Pam astudio’n ddwyieithog?, CARDIFF MET BLOG
, Pam astudio’n ddwyieithog?, CARDIFF MET BLOG

Shwmae! Cathrin yw fy enw i, ac rwy’n astudio Busnes a Rheolaeth gyda Rheoli Adnoddau Dynol yn y brifysgol. Mae’n anodd credu fy mod yn fy ail flwyddyn a bron a bod hanner ffordd trwy’r cwrs!
 
Rwy’n astudio fy nghwrs yn ddwyieithog gan wneud 40 credyd yn y Gymraeg! Mae astudio trwy’r Gymraeg yn gam naturiol i mi gan fy mod i wedi gwneud fy holl astudiaethau yn yr ysgol yn y Gymraeg, ac mae’n gyfle rhy wych i’w golli!
 

, Pam astudio’n ddwyieithog?, CARDIFF MET BLOG

Rwy’n astudio fy nghwrs yn ddwyieithog yma yn Met!

 
Yn fy marn i mae astudio’n ddwyieithog yn fantais fawr. Mae’n eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau a fydd yn y pen draw yn ddeniadol wrth chwilio am swydd yn y dyfodol ac yn bendant dwi wedi elwa llawer o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
 
Mae’r grwpiau’n dueddol o fod yn llai ac felly mae’n gyfle da i ddod i nabod eich cyd-fyfyrwyr a darlithwyr. Mae yna fwy o gymorth ar gael a dwi’n fwy hyderus i ofyn cwestiynau ac i gynnig syniadau yn y seminarau.
 
Yn y flwyddyn gyntaf fe wnes i astudio amrywiaeth o wahanol bynciau. Roedd hi’n gyfle imi weld pa destunau oedd orau gennai er mwyn gallu mynd mewn i fwy o ddyfnder yn y pwnc yna yn yr ail flwyddyn! Fe wnes i astudio nifer o bynciau a oedd yn cynnwys; Marchnata, Y Gyfraith, Cyllid a Rheoli Adnoddau Dynol, heb anghofio am rhai o’r modiwlau craidd.
 
, Pam astudio’n ddwyieithog?, CARDIFF MET BLOG
 
Erbyn hyn rwyf wedi penderfynu arbenigo mewn Rheoli Adnoddau Dynol sydd yn cynnwys llawer o wahanol nodweddion o Reoli Perfformiad, Rheoli Pobl a’r Gyfraith o fewn y gweithle. Er hyn rwy’n astudio modiwlau Rheoli Adnoddau Dynol yn y Saesneg ond rwy’n astudio 3 modiwl craidd yn y Gymraeg.
 
Mae’r ail flwyddyn hefyd yn cynnwys 15 diwrnod o brofiad gwaith. Rwy’n ddigon ffodus i allu dechrau ar y profiad gwaith yma wrth fynd am 1 diwrnod yr wythnos i adran Rheoli Adnoddau Dynol yn Amgueddfa Cymru sydd yn brofiad hollol wahanol i’r arfer!
 

, Pam astudio’n ddwyieithog?, CARDIFF MET BLOG

Joio cwrdd â phobl newydd yn yr Atrium!

 
Felly os ydych chi eisiau cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau da, yn ogystal  â chreu cysylltiad agos gyda’r tiwtoriaid, yna ewch amdani ac astudiwch eich cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Fyddwch chi ddim yn difaru!