Skip to content

Pam dewisiais Met Caerdydd i astudio Therapi Iaith a Lleferydd

Miriam Hedd Williams
Miriam Hedd Williams

Helo! Miriam Williams ydw i a dwi ar fin dechrau ar fy mlwyddyn olaf yn astudio Therapi Iaith a Lleferydd ym Met Caerdydd. Prif bwriad y blog hyn yw i rhannu fy mhrofiadau ar fy lleoliad bloc yn y gogledd dros yr haf a’r hyn rwy’n edrych ymlaen at wneud unwaith dwi wedi graddio.

Cyn y lleoliad:

Roeddwn ychydig yn nerfus cyn dechrau’r lleoliad yn y gogledd am chwe wythnos oherwydd dim ond lleoliad wythnosol roeddwn wedi ei brofi hyd at hyn yn y cwrs. Cefais wybod byddaf yn gweithio gydag oedolion yn ogystal â phlant ac yn amrywio rhwng ysbytai, ysgolion a chlinigau ar draws ardaloedd gwledig gogledd Cymru!!

, Pam dewisiais Met Caerdydd i astudio Therapi Iaith a Lleferydd, CARDIFF MET BLOG
Amser i grwydro’r golygfeydd anhygoel!

Gweithio gydag oedolion:

Yn ystod fy amser gydag oedolion, cefais gyfle i wneud asesiadau Dysphagia (problemau llyncu ar ôl cael strôc), ac asesiadau lleferydd – lle roeddwn yn asesu sut mae’r cyhyrau yn yr wyneb/tafod/palate wedi eu heffeithio ar ôl strôc. Yn ogystal â hyn, byddwn wedyn yn rhoi cyngor a therapi i’r cleifion ar sut i gryfhau eu lleferydd ac er mwyn eu helpu i gyfathrebu yn hyderus unwaith eto.

Roedd hyn yn brofiad anhygoel i allu datblygu fy sgiliau clinigol yn enwedig gyda chleifion strôc ac yn bennaf rôl therapydd iaith a lleferydd yn y maes hwn. Dechreuais ddatblygu fwy o hunan hyder a dechrau teimlo fwy fel therapydd annibynnol erbyn diwedd y tair wythnos gydag oedolion.

, Pam dewisiais Met Caerdydd i astudio Therapi Iaith a Lleferydd, CARDIFF MET BLOG
Dyma fi a fy ffrind Elen yn mwynhau ar ein lleoliad oedolion!!

Plant:

Nesaf, es i ar leoliad mewn ysgolion a chlinigau yn gweithio’n bennaf gyda phlant oedd ag anhawsterau iaith neu leferydd. Yn wahanol i’r lleoliad gydag oedolion, roeddwn wedi cael fwy o brofiad yn gweithio gyda phlant ac wedi gallu datblygu llawer o sgiliau ar leoliadau eraill yn ystod y cwrs.

Yn bennaf, cefais gyfle i asesu lleferydd ac iaith plant a rhoi targedau i’w hathrawon a’u rhieni ar sut i weithio gartref ac yn yr ysgol ar y targedau er mwyn iddynt gyfathrebu yn hyderus a chlir mewn pob amgylchedd.

Casgliad:

Trwy’r profiadau uchod, dysgais sut i ddefnyddio’r hyn rydym wedi bod dysgu ar hyd y tair blynedd diwethaf mewn darlithoedd mewn gosodiad clinigol gyda chleifion go iawn. Boddhad oedd hi i allu gweld sut oedd cleifion yn gwerthfawrogi mewnbwn a chymorth therapi iaith a lleferydd yn eu bywydau.

Ond yn fwy byth, roedd hi’n bleser gallu cynnig y therapi a’r cymorth trwy’r Gymraeg – yn enwedig i rheiny oedd yn uniaith Gymraeg neu yn llawer fwy hyderus yn cyfathrebu a defnyddio’r Gymraeg. Edrychaf ymlaen at raddio mewn blwyddyn a gallu defnyddio’r holl sgiliau y dysgais ar y lleoliad yma yn y dyfodol, yn enwedig i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg!