Skip to content

Pam penderfynu astudio Busnes a Rheoli drwy gyfrwng y Gymraeg

featured-photo
featured-photo

Graddiais bedair blynedd yn ôl (dwi methu credu fy mod yn dweud hynny!) o Met Caerdydd ar ôl astudio Busnes a Rheoli am dair blynedd. Yn y blog hyn byddai’n siarad am fy mhrofiad o astudio yn y Met, astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a sut mae hynny wedi fy helpu gyda fy ngyrfa hyd yn hyn ers graddio.

Pam dewis Met Caerdydd?

Wrth ddewis i ba brifysgol roeddwn am fynychu, roedd gallu symud yn ddigon pell o fy nhgartref yn Ynys Môn yn bwysig er mwyn cael y profiad prifysgol llawn a gallu gwneud fy astudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae symud i ffwrdd i’r brifysgol yn beth brawychus ond roedd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ei gwneud hi’n haws i fi wneud ffrindiau oherwydd bod gennych chi rywbeth yn gyffredin yn barod. Helpodd hyn gyda fy hyder wrth gwrdd â myfyrwyr eraill a hefyd yn y darlithoedd â gofyn unrhyw gwestiynau.

Ar ôl graddio o’r brifysgol, penderfynais gymryd blwyddyn i ffwrdd i deithio o amgylch De America lle roeddwn yn gallu ymgolli mewn gwahanol ddiwylliannau a thicio nifer o bethau oddi ar fy ‘rhestr bwced.’ Fodd bynnag, agorodd y profiad hwn fy llygaid i effaith newid yr hinsawdd gyda thraethau’n frith o blastig a datgoedwigo. Ar ôl gweld yr effeithiau hyn gyda fy llygaid fy hun roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud rhywbeth i helpu i gyfrannu at fynd i’r afael â”r argyfwng byd-eang.

Fe wnaeth astudio trwy gyfrwng y Gymraeg roi nifer o fanteision i fi fel cryfhau fy sgiliau iaith Gymraeg a helpodd i gael fy swydd ym Menter Môn. Yn Menter Môn ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar brosiect o’r enw Morlais sy’n llif ynni llanw a fydd wedi’i leoli oddi ar Ynys Môn. Mae’r prosiect yn mynd trwy’r cam cydsynio ar hyn o bryd ac os yw wedi cyd-synio bydd ganddo’r potensial i fod y llif ynni llanw mwyaf yn y byd gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Roedd astudio ym Met Caerdydd yn bendant wedi fy helpu i wella a datblygu’r sgiliau angenrheidiol yr wyf eu angen i gael fy swydd yn Menter Môn. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod yn gweithio mewn diwydiant newydd a chyffrous sy’n anelu at fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.