Skip to content

Sut oedd astudio’r TAR PCET wedi fy helpu i sicrhau fy swydd gyntaf fel darlithydd Busnes

Image of Jonathan Fry PGCE PCET graduate
Jonathan Fry

Image of Jonathan Fry PGCE PCET graduate

Helo, fy enw i yw Jonathan ac ers Gorffennaf 2018 rwyf wedi bod yn gweithio fel Darlithydd mewn Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn gyfrifol am y darpariaeth cyfrwng Gymraeg o fewn yr adran.

I ddechrau astudiais ar gyfer gradd anrhydedd mewn Rheoli Digwyddiadau ym Met Caerdydd cyn cwblhau gradd ymchwil MPhil, hefyd yn y Met. Fodd bynnag, mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar fy nhaith wrth astudio tuag at y cymhwyster TAR PCET.

Yn hytrach na chofrestru ar y cwrs TAR PCET ar unwaith, er mwyn cael blas ar y cwrs, fe gofrestrais ar gwrs byr “Paratoi i Ddysgu yn PCET’ a oedd yn rhedeg un noson yr wythnos am ddeg wythnos. Roedd y modiwl hwn hefyd yn cyfrannu at y PCET llawn.

, Sut oedd astudio’r TAR PCET wedi fy helpu i sicrhau fy swydd gyntaf fel darlithydd Busnes, CARDIFF MET BLOG
Fe wnaeth cwblhau’r modiwl ‘Paratoi i Addysgu mewn PCET’ fy helpu i ennill credydau a pharhau’n ddi-dor ar y cwrs TAR PCET ym Met Caerdydd. Dewisais y llwybr rhan-amser i allu astudio o amgylch ymrwymiadau eraill.

Roedd strwythur y cwrs llawn, a astudiwyd rhan amser dros ddwy flynedd, yn effeithiol iawn o ran gallu cwblhau cynnwys y cwrs ar un prynhawn / noson benodol yr wythnos wrth weithio o amgylch ymrwymiadau eraill.

Er nad oedd y darlithwyr yn rhugl yn y Gymraeg mae darlithwyr eraill yn yr Ysgol Addysg sydd yn siarad Cymraeg oedd yn golygu fy mod wedi gallu cwblhau fy oriau ymarfer dysgu mewn ysgol uwchradd Gymraeg. Roeddwn yn ddigon ffodus i gwblhau 30 awr o addysgu yn Ysgol Cwm Rhymni yn ystod blwyddyn gyntaf yr astudiaeth a 100 awr yn ystod yr ail flwyddyn, gydag aelod o staff Met Caerdydd yn arsylwi, yn unol â gofynion y cwrs.

Er fy mod wedi cwblhau fy nghymwysterau lefel addysg uwch i gyd trwy gyfrwng y Saesneg, roeddwn wedi derbyn fy addysg hyd at hynny trwy’r Gymraeg gan fy mod wedi mynychu Ysgol Pencae, Ysgol Plasmawr ac Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd. Mae’r ffaith fod yna gynnydd yn y galw am addysg cyfrwng Gymraeg yng Nghaerdydd yn galonogol a’r ffaith fod yna drydydd ysgol uwchradd (sef Ysgol Bro Edern) wedi ei sefydlu ers sawl blwyddyn gyda disgyblion Chweched Dosbarth erbyn hyn. Un peth roeddwn yn ei hoffi am y cymhwyster oedd fy mod yn gallu dysgu mewn amrywiaeth o sefydliadau megis chweched dosbarth, addysg bellach neu addysg uwch.

Roedd y profiad o ddysgu disgyblion chweched dosbarth yng Nghwm Rhymni yn amhrisiadwy ac wedi rhoi cyd-destun gwahanol i mi yn fy mhrofiad cyfredol mewn Addysg Uwch. Yn ddiweddar, roedd CBAC wedi lansio cwrs Lefel 1/2 mewn Gweithrediadau Digwyddiadau a oedd yn cael ei gynnig fel llwybr galwedigaethol i ddisgyblion Chweched Dosbarth a hwn oedd y cwrs y canolbwyntiais ar ddysgu yn ystod blwyddyn gyntaf y cwrs.

Ar ddechrau’r ail flwyddyn roeddwn yn siomedig bod newid i’r aelod o staff a oedd cydlynu’r cwrs yn ystod y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, wrth fyfyrio, roedd hwn yn gam cadarnhaol gan fod mewnbwn aelod gwahanol o staff a’r cyfle i’w harsylwi yn caniatáu i mi gael persbectif gwahanol a ffurfio gwahanol syniadau a barn wahanol hefyd. Yn ystod yr ail flwyddyn dysgais bynciau amrywiol megis Digwyddiadau, Twristiaeth (CBAC) a Lletygarwch (BTEC) er mwyn cwblhau’r oriau gofynnol. Roedd hyn yn her o ran yr ystod eang o bynciau ond mwynheais yr elfen addysgu a gallwn werthfawrogi’r gwahaniaethau rhwng cyrsiau CBAC a BTEC.

Un o’r pethau roeddwn yn ymwybodol ohono oedd y ffaith bod angen ystyried y lefelau gwahanol o allu ymysg y myfyrwyr o ran yr iaith Gymraeg a bod nifer yn dod o gartrefi di-gymraeg. Roeddwn yn aml yn cynnwys geirfa Saesneg mewn cromfachau ar sleidiau PowerPoint ac yn y deunyddiau dysgu os oeddwn yn meddwl byddai o fudd i’r myfyrwyr. Roeddwn hefyd yn annog iddyn nhw holi os oedd term nad oeddent yn sicr ohono. Mae’r egwyddor yma yn un rwyf yn parhau i weithredu yn fy swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd nifer o ‘gymeriadau’ yn fy nosbarthiadau ac roedd y system pwyntiau a ddyfeisiais yn llwyddiant mawr! Dyfarnwyd pwyntiau i’r myfyrwyr am bresenoldeb yn ogystal ag am eu gwaith, a’r brif ‘wobr’ ar ddiwedd y flwyddyn academaidd am y mwyaf o bwyntiau oedd pâr o docynnau i ddigwyddiad lleol o’u dewis.

Yn fy marn i, y ddau fodiwl mwyaf defnyddiol oedd ‘Cyflogadwyedd a Datblygiad Proffesiynol mewn PCET’ a ‘Cynllunio a Dylunio Cwricwlwm Cynhwysol mewn PCET. Mwynheais hefyd weithio gyda chyfoedion ar y modiwl Cwricwlwm lle’r oedd yn rhaid cyflwyno dogfen cynnig modiwl manwl o’r enw ‘Beth nesaf? Sgiliau allweddol ar gyfer bywyd ar ôl ysgol (Cyflogadwyedd a Chyfathrebu Effeithiol)’.

Yn ystod mis Mehefin 2018 cefais gyfweliad am swydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu staff Met Caerdydd yn gefnogol iawn wrth fy helpu I baratoi ar gyfer y cyfweliad. Roedd y ffaith fy mod wedi cael profiad ymarferol diweddar mewn addysgu trwy gyfrwng Cymraeg a’r ffaith fy mod wedi dysgu sgiliau allweddol ynglŷn â dysgu ac addysgu yn yr iaith yn ddefnyddiol iawn yn ystod y cyfweliad. Roedd yr ystod eang o bynciau roeddwn i wedi eu haddysgu (gan gynnwys Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch) hefyd o fantais enfawr.

Yn ogystal, darganfyddais fod modiwlau tebyg o’r cwrs gradd Rheoli Digwyddiadau BA (Anrh) roeddwn wedi eu dilyn, megis Yr Amgylchedd Busnes, Systemau Cyfreithiol ac Adnoddau Dynol a Marchnata yn cyd-fynd yn agos iawn â’r ddarpariaeth modiwlau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Un o’r modiwlau cyfrwng Saesneg yr oeddwn i i’w gydlynu oedd ‘Rheoli Cyrchfannau ac Atyniadau’ felly roedd fy mhrofiad diweddar wrth ddysgu’r pwnc, er ar lefel wahanol, yn ddefnyddiol iawn. Roedd yr Ysgol Fusnes yn y broses o ailstrwythuro eu cynlluniau gradd ac, o ganlyniad i’r hyn roeddwn wedi ei ddysgu ar y modiwl ‘Cwricwlwm’, roedd yn ddiddorol iawn arsylwi hyn yn cael ei weithredu yn y ‘byd go iawn’.

Mae’r ffaith bod pawb ar y modiwl wedi cadw mewn cysylltiad ar WhatsApp yn dystiolaeth bod y staff addysgu, yn ogystal â strwythur a chynnwys y cwrs PCET, wedi caniatáu i ni allu ffurfio rhwydwaith gefnogol o ffrindiau a chysylltiadau yn y sector addysg.