Skip to content

Taniwyd fy Uchelgais ym Met Caerdydd

, Taniwyd fy Uchelgais ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS
, Taniwyd fy Uchelgais ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS

Roeddwn i’n ferch ifanc gyda diddordeb mewn ffasiwn pan ddechreuais fynychu cwrs israddedig mewn Rheoli Marchnata Ffasiwn ym Met Caerdydd.  

Heddiw, rydw i’n fenyw broffesiynol, strategol, uchel ei pharch sy’n meddu ar brofiad helaeth, arbenigedd a phŵer.  

Mae’r daith gyfan hon wedi digwydd ym Met Caerdydd, gan ddechrau fel myfyriwr israddedig, trwy astudiaethau ôl-raddedig, i fod yn siaradwr gwadd ac yn awr fel darlithydd cyswllt yn Ysgol Reoli Caerdydd, lle rydw i’n gwneud PhD.  

Dysgodd Met Caerdydd i mi sut i harneisio fy angerdd am dwf.  

Mae dod yn ail yng nghystadleuaeth ‘Pitch’ ac ennill gwobr ‘Future Marketer of the Year’ y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) yn gyflawniadau o fy nghyfnod fel myfyriwr yr wyf yn hynod falch ohonynt.  

Llwyddiant allweddol yn fy natblygiad proffesiynol oedd sicrhau cyfle interniaeth rhyngwladol gyda Michael Kors yn Shanghai. Dysgais gymaint amdanaf fy hun a’r diwydiant o’r profiad hwn.  

Heb gefnogaeth Tîm Byd-eang Met Caerdydd a fy narlithydd Marchnata Ffasiwn, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl. Gosododd y profiad hwn y safon i mi ac, oherwydd fy uchelgais, dyna’r safon yr wyf bob amser yn anelu at ei gyflawni.  

Rydw i wedi magu hyder, cael fy ysgogi, datrys problemau, hyrwyddo newid ac wedi cael fy annog erioed gan Met Caerdydd i wneud pethau’n wahanol.  

Mae darlithwyr Met Caerdydd yn ofalgar tu hwnt ac yn addysgu gyda meddyliau agored, sy’n gwneud i fyfyrwyr deimlo eu bod yn cael eu cynnwys, sydd yn ei dro’n golygu eu bod yn gallu ffynnu.  

O fewn y diwydiant ffasiwn rwyf, ar adegau, wedi teimlo fy mod yn cael fy marnu mewn rhai cyd-destunau yn ôl fy rhyw neu fy ymddangosiad. Rwyf hyd yn oed wedi colli gwaith o’r herwydd – hyd yn oed pan mai fi oedd y gorau yn yr ystafell. Nid yw siwt binc a bob melyn yn fy ngwneud yn benwan.  

Nid ydw i erioed wedi cael fy marnu am y ffordd rydw i’n edrych ym Met Caerdydd – mae’r gwrthwyneb yn wir! Maen nhw’n dathlu pawb am yr hyn sy’n ein gwneud ni’n unigryw.  

Mae Met Caerdydd wedi fy nerbyn yn ddiamod – dyna fy synnwyr o berthyn.