Skip to content

Taniwyd fy Ymarfer Darlunio ym Met Caerdydd 

, Taniwyd fy Ymarfer Darlunio ym Met Caerdydd , CARDIFF MET BLOGS
, Taniwyd fy Ymarfer Darlunio ym Met Caerdydd , CARDIFF MET BLOGS

Gall y diwydiant creadigol fod yn fygythiol. Mae cymaint o gystadleuaeth a chymaint o bobl dalentog, fel ei bod yn anodd peidio â chymharu eich hun gydag eraill a dod yn hunanfeirniadol iawn.  

Rwyf wedi mwynhau tynnu lluniau erioed. Roedd gradd mewn Darlunio ym Met Caerdydd yn ymddangos yn gyfle perffaith i fireinio fy nghrefft a dysgu sut i droi fy angerdd yn yrfa. Pan ymunais â’r brifysgol yn 2018, roedd yn teimlo’n frawychus gan fod cymaint o bobl dalentog ar y cwrs. 

Ar y cychwyn, roeddwn mor anghyfarwydd â fy ymarfer, fel nad oeddwn yn gallu gweld sut byddai modd i mi wneud bywoliaeth o ddarlunio. 

Ond buan iawn y daeth Met Caerdydd yn ail gartref i mi. Roedd fy nhiwtoriaid ar y cwrs Darlunio yn hynod o gefnogol a chroesawgar. Fe wnaethon nhw fy helpu i ddatblygu fy nhalent unigol i fod yn ddarlunydd gyda rhywbeth arbennig i’w gynnig i’r diwydiant. 

Mae Campws Llandaf Met Caerdydd yn amgylchedd mor wych i fyfyrwyr. Pan fydd eich cwrs yn dod i ben, rydych chi’n edrych ymlaen at eich dyfodol ac mae popeth yn gyffrous, ond roeddwn i’n drist hefyd i adael Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd (CSAD), ac rydw i wir yn gweld eisiau’r awyrgylch yno. Mae Met Caerdydd yn cynnig cymaint i fyfyrwyr ymwneud ag ef y tu allan i’r cwrs gradd, gan adeiladu ymdeimlad cryf iawn o gymuned a chefnogaeth. Heb os, rydw i wedi cael blas ar bopeth! 

Graddiais o CSAD yn 2022. Roeddwn wedi dechrau fy nghwrs yn teimlo efallai nad oeddwn yn ddigon da, ond rwyf bellach yn ddarlunydd llawrydd sy’n gweithio ac yn gwneud cyflog go iawn o fy ymarfer creadigol.