Skip to content

5 peth rydw i’n ei garu am astudio Cyfathrebu Graffig ym Met Caerdydd

Maris
Maris

Nawr mod i yn fy mlwyddyn olaf yn astudio Cyfathrebu Graffig ym Met Caerdydd (mae’n dychryn rhywun yn tydi!), dwi’n credu ei bod yn amser da i edrych yn ôl ar fy mhrofiad ar y cwrs hyd yn hyn, ac ysgrifennu am rai o’r pethau sydd wedi mynd â’m bryd tra’n astudio yma. Felly, dyma ddechrau arni:

1. Ystod y prosiectau

Yn amlwg, o astudio am radd mewn celf a dylunio, byddech yn disgwyl gweithio ar lawer o brosiectau ond wnes i ddim sylweddoli pan ddes i yma, y byddwn yn cael cyfle i weithio ar gymaint o bethau gwahanol.

Ces gyfle i weithio gyda chleientiaid byw ar brosiectau a all wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac rwyf wedi cydweithio ar friffiau o fewn y cwrs ac ar draws yr Ysgol Gelf a Dylunio

Un prosiect sy’n sefyll allan ydy’r briff ‘Meindiwch eich Busnes’; ces gyfle i weithio gyda myfyriwr Dylunio Cynnyrch a gyda dau fyfyriwr Tecstilau i greu busnes mewn pum wythnos.

Defnyddiais fy sgiliau Graffeg i frandio’r cwmni a llwyddais i ddysgu sgiliau newydd o blith y disgyblaethau eraill. Anfonwyd ein busnes i gystadleuaeth Syniadau Mawr Cymru ac enillon ni Wobr yr Effaith Amgylcheddol!

Ces gyfle hefyd i weithio ar brosiectau dyddiau unigol, briffiau cystadleuaeth, brandio, golygyddol, teipograffeg, perswadio a llawer mwy – digon, mwy na thebyg, i lenwi’r blog cyfan hwn!

2. Diwylliant y stiwdio 

A minnau’n fyfyrwraig Graffeg, rydw i’n treulio llawer o fy mywyd yn y stiwdio. Mae holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, yr ail a’r drydedd blwyddyn yn rhannu gofod stiwdio – sydd ychydig yn frawychus ar y cychwyn ond mae’n ofod gwych i weithio ynddo!

Ces groeso cynnes yma ac ni ches unrhyw drafferth i ddodo hyd i le i weithio . Gallwch ofyn i unrhyw fyfyriwr arall o’r drydedd flwyddyn ac fe ddwedan nhw wrthoch chi mod i bron yn byw yn y stiwdio – fy ail gartref mewn gwirionedd!

Dw i’n credu bod hyn yn dangos y math o amgylchedd sydd yma, a chofiwch am yr holl soffas yno – oes angen unrhyw beth arall?

, 5 peth rydw i’n ei garu am astudio Cyfathrebu Graffig ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOG
Mae’r stiwdio Graffeg yn le gwych i weithio

3. Y Staff

O gofio mai cwrs israddedig ydy e, mae yna ddarlithwyr wrth gwrs. Sut rai ydyn nhw? Wel, gwych a bod yn onest. 

Mae’n dîm eitha bach, ond mae gan bob aelod ei faes arbenigol ei hun, boed yn brint, yn deipograffeg neu hyd yn oed yn ddyluniad rhyngweithiol. Mae hyn yn golygu bod rhywun yno i’ch helpu waeth pa ran o’r cwrs graffeg sydd yn mynd â’ch bryd.

Mae eu swyddfa hefyd yn y stiwdio, felly dydyn nhw ddim yn bell i ffwrdd ac mae eu drws ar agor bob amser i chi. Os bydd gennych unrhyw broblem, gallwch bicio i mewn a bydd rhywun yno i roi help llaw i chi.
Maen nhw’n dîm gwych a hwyliog.

4. Y rhyddid 

Nawr, mae hyn yn ymddangos yn rhyfedd ond gadewch i mi egluro       bydd unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am Gyfathrebu Graffeg yn gwybod pa mor fawr ydy’r ddisgyblaeth. Mae cymaint o ddarpar lwybrau i’w dilyn  – tir ychydig yn beryglus mewn gwirionedd.

Felly, yn hytrach na’ch gwthio i lawr llwybr arbennig, mae’r tîm yn rhoi rhyddid llwyr i chi ddatblygu’r math o ddylunydd yr ydych chi’n dymuno bod. Maen nhw’n awyddus i chi ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn ei hoffi ac yn teimlo’n frwd drosto, ac yna eich cynorthwyo i ddatblygu’r brwdfrydedd hwnnw.

Cewch hefyd ryddid i brofi pethau newydd ac i wneud camgymeriadau – mae’r cyfan yn rhan o ddarganfod a dysgu. Mae gennych wir ryddid i fod yn greadigol!

5. Y cyfleoedd

Gwn mod i wedi sôn eisoes am yr ystod o brosiectau cawson ni eu cynnig drwy gydol y tair blynedd, ac efallai mae’n ymddangos bod hyn yn mynd i fod yn ailadroddus, ond credwch fi dydw i ddim!

Mae cymaint o gyfleoedd eraill ar gael i bawb. Ces gyfle i fynd i Morocco a chymryd rhan mewn cystadlaethau a hyd yn oed ennill rhai. Ces gynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith, cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau tu allan i’r cwricwlwm.

Dw i wedi ymweld â stiwdios dylunio a mynychu cynadleddau yn Llundain, wedi ymweld ag orielau ac amgueddfeydd, wedi gweithio gyda phobl yn y diwydiant, wedi gwrando ar ddylunwyr llwyddiannus yn siarad am euprofiadau a llawer iawn mwy. 

Dw i wir yn teimlo mod i wedi tyfu fel unigolyn drwy achub ar bob cyfle posibl – a bod yn onest, oni na fasech chi? Dw i wedi cwrdd â chymaint o bobl a gwneud llawer o ffrindiau ac wedi gwneud pethau na faswn i erioed wedi dychmygu eu gwneud!

Cyn mynd yn rhy sentimental, dwi’n credu gwnâi y gwna i orffen yma. Felly dyna nhw, y 5 peth dw i’n ei hoffi am Gyfathrebu Graffeg … roedd llawer rhagor y gallwn i fod wedi’i ddweud, felly, roedd hi’n eitha caled i’w gyfyngu i bum peth. Ond dwi’n credu mod i wedi dewis y pum reswm pennaf (i mi beth bynnag). Mae’n gwrs da iawn a bydda i’n ei golli ar ôl gorffen, felly, dw i am fwynhau gweddill fyamser yma a manteisio i’r eithaf ar bopeth cyn mynd allan i’r byd go iawn  sy’n ddigon i godi ofn arnoch chi!

https://www.youtube.com/watch?v=r-E3MKH9ORc&t=1s