Skip to content

5 rheswm dwi wrth fy modd yn astudio Seicoleg ym Met Caerdydd

, 5 rheswm dwi wrth fy modd yn astudio Seicoleg ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOG
, 5 rheswm dwi wrth fy modd yn astudio Seicoleg ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOG
  1. Darlithwyr brwdfrydig. Mae pob darlithydd yn arbenigo yn eu pwnc eu hunain ac wedi gwneud eu hymchwil eu hunain ac mae eu brwdfrydedd yn amlwg yn eu darlithoedd. Maent i gyd wrth eu bodd yn cael rhoi blas a rhagor o wybodaeth i chi am eu maes astudio. Pan fyddwch chi’n gofyn cwestiynau iddyn nhw, maen nhw wastad yn hapus i helpu ac mae ganddyn nhw lyfrgell o wybodaeth yn eu pennau.
  1. Seicoleg anifeiliaid! Fy hoff fodiwl ym maes seicoleg. Mae ganddo natur wyddonol ac rydych chi’n dysgu rhywbeth newydd yn gyson ond yn gofyn cwestiynau am yr un peth ar yr un pryd.
  1. Rydych chi’n credu eich bod chi’n gallu darllen pobl a’r amgylchedd yn well. Mae astudio seicoleg yn eich gwneud chi’n fwy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas a’r bobl rydych chi’n eu cyfarfod. Rydych chi’n dysgu darllen hanesion pobl a fydd yn ei dro yn eich galluogi i’w deall yn well a deall pam eu bod yn ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae’n ei gwneud hi’n haws derbyn pobl fel maen nhw a bod yn well person.
  1. Deall eich hun. Yn ogystal â deall eraill, rydych chi’n deall eich hun yn well. Fel Bwdhydd, rydw i’n ceisio bod yn ystyriol a chydnabod sut rydw i’n teimlo a sut ddiwrnod ges i. Mae seicoleg yn eich helpu i ddeall eich personoliaeth, eich nodweddion a’ch ymddygiad eich hun. Gall hyn helpu wrth wneud cais am unrhyw yrfaoedd yn y dyfodol hefyd!
  1. Datblygu eich gallu i ymchwilio a meddwl yn feirniadol. Help mawr yn y gweithle! Mae eich aseiniadau’n eich helpu chi i ymchwilio’n annibynnol a gwerthuso’r adnoddau rydych chi’n eu canfod mewn ffordd feirniadol hefyd. Mae hyn yn helpu i weithio’n effeithiol mewn gweithle ac i gyflwyno’ch canfyddiadau mewn ffordd drawiadol.

Ennill Gwobr Chwaraeon Genedlaethol yng Nghymru

, 5 rheswm dwi wrth fy modd yn astudio Seicoleg ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOG
Ennill gwobr Person Ifanc Ysbrydoledig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2018

Roeddwn i wrth fy modd yn ennill gwobr genedlaethol, yn enwedig ei hennill drwy Gymru gyfan. Er bod fy enw ar y wobr, rwy’n ei gweld fwy fel gwobr i bawb rydw i wedi gweithio gyda nhw oherwydd ar ddiwedd y dydd ni all unrhyw un wneud unrhyw beth ar ei ben ei hun.

, 5 rheswm dwi wrth fy modd yn astudio Seicoleg ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOG
Mewn twrnamaint Tenis

Mae cael pobl wrth law i’ch helpu yn gwneud eich gwaith yn haws ac yn fwy o hwyl! Mae’r wobr yn gyffredinol yn fy ngwneud hyd yn oed yn falchach o fod yn Gymro, yn enwedig ar ôl mynychu noson wobrwyo a gweld pa mor wych yw Cymru a’i phobl.