Helo! Fy enw i yw Siwan a dwi newydd gychwyn ar fy nhrydydd mlwyddyn yn astudio Cyfathrebu Graffig ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Dyma rai o fy uchafbwyntiau o’r ddwy flynedd dwethaf a be dwi’n edrych ymlaen ato yn y flwyddyn i ddod.
Dwi wedi dysgu gymaint yn y ddwy flynedd dwethaf ac yn ysu i gael ddysgu mwy yn fy mlwyddyn olaf. Dwi wedi mwynhau bob prosiect a gafodd ei roi i ni gan eu bod nhw wedi galluogi i mi ddatblygu fy sgiliau a darganfod rhai newydd. Mae’r gymuned sydd yn y stiwdio graffeg heb ei ail ac yn rhywbeth ni all ei guro yn fy marn i. Mae’r amgylchedd yn neud i chi deimlo’n saff i rannu eich syniadau, trafod eich meddyliau ac hefyd mae’n hawdd gofyn am gymorth gan y tiwtoriaid.
Dewisiais i astudio y cwrs cyfathrebu graffig ym Met Caerdydd oherwydd y cyfleoedd roedden nhw’n rhoi i ni i arbrofi ac i ddysgu sgiliau newydd. Mae’r cyflesterau sydd ar gael i ni ddefnyddio yn galluogi mi flasu ac ymgolli fy hun yn y pynciau eraill sydd yn yr Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
Un o’r hoff bethau wnes i weithio arno yn yr ail flwyddyn oedd y prosiect brandio a wnaethon ni. Gofynniad y prosiect oedd i greu brand ar gyfer arddangosfa a fyddai’n arddangos gwaith am bwnc/thema penodol a fyddai’n ennyn diddordeb cynulleidfa ac yn dysgu rhywbeth iddynt.
Roedd fy arddangosfa i yn archwilio’r ystyr tu ôl i enwau tirnodau hanesyddol yn y DU. Penderfynais y byddai fy arddangosfa wedi’i leoli mewn dinasoedd ac y byddech chi’n mynd trwy’r arddyngosfa trwy ddilyn y llinellau lliw. Dyma un o’r prosiectau brandio cyntaf dwi wedi’i neud a chefais andros o hwyl yn ei gwblhau. Roeddwn i’n hoffi’r elfen o orfod gwneud yn siwr bod pob darn o waith yn dod at ei gilydd yn y diwedd a’i fod o’n edrych fel brand credadwy.
Er nad ydw i wedi gwneud llawer o waith trwy gyfrwng y Gymraeg dros y ddwy flynnedd dwethaf, gwnes i ychydig o waith cyfieithu o fewn cwpwl o brosiectau. Cefais y cyfle i ddefnyddio fy sgiliau Cymraeg i gyfieithu y gwaith yma o’r Saesneg i’r Gymraeg a gwneud yn siwr bod y dyluniad yr un mor effeithiol yn y ddwy iaith.
Mae’r profiad cyfan wedi bod yn wych mor belled, ond y prif beth am y cwrs yw eich bod chi bob amser yn dysgu a bod yna ddigon o gyfleoedd. Mae’r stiwdio graffeg ym Met Caerdydd yn lle cadarnhaol, cynhyrchiol a chymdeithasol iawn i fod ac mae’r tiwtoriaiad bob amser yn hapus i gynnig adborth ar y gwaith rydych chi’n ei wneud.
Wrth edrych yn ôl nawr mae’n hawdd un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud. Dwi’n edrych ymlaen i greu mwy o atgofion ac i dyfu fel person a dylunydd ifanc yn fy nhrydedd blwyddyn.



