Skip to content

Yn barod i ddechrau fy ngyrfa diolch i astudio Busnes a Rheoli ym Met Caerdydd!

Cathrin Jones Featured Image
Cathrin Jones Featured Image

Helo, Cathrin ydw i, dwi’n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi. Fe wnes i astudio BA Busnes a Rheolaeth gyda Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd dros y tair blynedd diwethaf. Ac erbyn hyn dwi digon ffodus o wedi cael gwaith gyda Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin fel Cydlynydd Hwb. 

Rwyf o hyd wedi cael diddordeb mewn busnes ac yn dilyn astudio Busnes Lefel A yn yr ysgol, wnaeth hyn fy mhenderfyniad yn rhwydd! Edrychais mewn i brifysgolion a oedd yn cynnig rhan o’r cwrs yn y Gymraeg gan fod astudio yn y Gymraeg yn gam hollol naturiol.

A dyna un o’r dewisiadau gore y gwnes i oedd mynd i Met Caerdydd i astudio Busnes yn ddwyieithog. Roedd gallu mynd i ddarlithoedd a seminarau Cymraeg wedi gwneud byd o wahaniaeth a dyna’r darlithoedd a seminarau roeddwn i yn eu mwynhau fwyaf. 

Roedd astudio yn y Gymraeg a’r Saesneg wir wedi gwneud gwahaniaeth, gan fy mod i fwy hyderus yn y Gymraeg. Roedd astudio rhan o’r cwrs yn Saesneg ychydig o sioc gan fy mod i o hyd wedi cael fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn mae wedi fy ngwneud i llawer mwy hyderus yn y ddwy iaith, yn enwedig gan fy mod i’n defnyddio’r ddwy iaith yn fy swydd. 

Yn niwrnod agored Met Caerdydd (nol yn 2016!) un o’r pethau gwnaeth un o’r darlithwyr ddweud oedd- Er mwyn cael swydd yn y dyfodol mae rhaid cael profiad gwaith. Un o’r modiwlau yn yr ail flwyddyn oedd mynd ar brofiad gwaith am 15 diwrnod.

Gwnes i fy mhrofiad gwaith yn adnoddau Dynol Amgueddfa Genedlaethol Cymru am ddiwrnod yr wythnos am gyfnod o 15 wythnos. Roedd gallu cael y profiad gwaith wrth astudio wir wedi fy helpu yn yr ail flwyddyn, gan eu bod yn ffordd i fy nghymell i wneud yn dda ar y cwrs er mwyn gallu sicrhau fy mod yn cael swydd yn y dyfodol.   

Erbyn hyn dwi wedi derbyn swydd sydd yn Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin lle rydym yn cynorthwyo unrhywun sydd am ddechrau busnes eu hun neu am gefnogaeth ar eu busnes presennol yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae’r hwb hefyd yn cynnal llawer o ddigwyddiadau sydd yn hollol amrywiol, a dwi wir yn mwynhau mynychu’r sesiynau gwahanol.

Yn fy ngwaith bob dydd rwy’n cynorthwyo gydag unrhyw waith sydd angen gwneud yn yr hwb; sydd yn cynnwys siarad gydag unigolion a hefyd gwneud unrhyw waith i adrodd nôl i Lywodraeth Cymru. Er fy mod yn gweithio o adref ar hyn o bryd, dwi wir yn mwynhau ac yn edrych ymlaen at allu mynd mewn i’r swyddfa yn fwy aml! 

, Yn barod i ddechrau fy ngyrfa diolch i astudio Busnes a Rheoli ym Met Caerdydd!, CARDIFF MET BLOGS
Taith i Gaeredin gyda’r Gymdeithas Gymraeg!

Mae’r cwrs a’r brifysgol wedi fy helpu i’m paratoi ar gyfer y cam nesaf yn fy ngyrfa, felly i unrhyw un sy’n ystyried dyfodol mewn busnes, rwy’n argymell yn gryf eich bod chi’n dewis Met Caerdydd.