Skip to content

Astudio Addysg Gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg: Yr hyn dwi wedi ei ddysgu mor belled

featured photo
featured photo

Helo! Fy enw i yw Amber ac rwy’n fyfyriwr ar y cwrs BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd a bellach newydd ddechrau ar fy mlwyddyn olaf cyn dechrau’r cwrs TAR Cynradd.

Astudio trwy’r Gymraeg

Rwy’n cofio nôl i fy niwrnod gyntaf yn y Brifysgol ar hyn sy’n cadw yn fy nghof yw’r croesawiad fwyaf cynnes gan yr adran Gymraeg, yn bennaf gan fy nhiwtoriaid Dyddgu Hywel ac Angharad Williams. Rwy’n cofio teimlo’n bryderus iawn ond daeth ymdeimlad cartrefol ac agos o fewn y grŵp Cymraeg yn gyflym iawn, datblygais gysylltiad agos â myfyrwyr Gymraeg eraill a bellach wedi creu ffrindiau am oes.

Er nad oedd seminarau/ darlithoedd ar gampws yn ystod flwyddyn dau oherwydd COVID-19 llwyddodd Dyddgu Hywel i gadw’r ymdeimlad o agosatrwydd o fewn y sesiynau Cymreig hyd yn oed ar lein. Mae’r sesiynau hon wastad yn teimlo’n anffurfiol, heb straen, a gan ein bod yn griw bach o 6 mae’ n haws cynnal trafodaethau, holi cwestiynau a chael y cyfle i siarad o fewn y sesiwn. Gwnaeth y sesiynau tiwtor personol gyda Dyddgu yn sicr dawelu fy meddwl yn ystod amseroedd ansicr iawn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae gan y tiwtoriaid Cymraeg perthynas agos iawn gyda’r myfyrwyr sydd wir yn cael ei gwerthfawrogi.

Cynrychiolydd blwyddyn dau

Cyn dechrau flwyddyn dau cefais fy newis fel cynrychiolydd myfyrwyr Cymraeg blwyddyn dau ar y cwrs astudiaethau addysg gynradd. Caniataodd y cyfle hwn i mi fedru cydweithio â darlithwyr a myfyrwyr i greu’r sesiynau, darlithoedd a chyfleoedd gorau i bawb. Cawsom gyfarfodydd fel grŵp o gynrychiolwyr cwrs gyda Chantelle Haughton pob mis i sicrhau bod pob grŵp seminar yn iawn ac yn hapus. Yn ogystal , cawsom ni’r cyfle i godi arian ar gyfer ysgol yn Rwanda, creodd y cynrychiolwyr cwrs gofundme page a cyfrif Trydar i ledaenu’r neges hyn.

Yn ogystal, ers i mi greu cyfrif Trydar proffesiynol ar ddechrau flwyddyn 1, rwyf wedi cael y cyfle i gydweithio â nifer helaeth o ysgolion yn y sir gan rannu sesiynau iechyd a lles via youtube ar gyfer plant ifanc a dod o hyd i asiantaethau addysg sydd wedi caniatáu i mi gael profiadau addysgu o fewn wahanol ysgolion fel profiad cyn dechrau TAR.

Profiadau

Mae wastad cyfle i fanteisio arni yn y brifysgol, yn ddiweddar cwblhais fy Hyfforddiant Ysgol Goedwig lefel 2 ar ôl iddi cael ei wahardd am dros flwyddyn oherwydd COVID-19. Rwyf yn argymell y cwrs yma i bob myfyrwr addysg gynradd gan ei fod yn gymhwyster ardderchog. Dwi yn barod wedi cael fy nghymeradwyo oherwydd y cymhwyster hon wrth i mi fod yn ffodus iawn i ennill swydd Cynorthwyydd Dysgu ar gyfer y flwddyn academaidd nesaf.

Dwi wir yn edrych ymlaen at fod yn nôl ar gampws am y flwyddyn olaf gyda fy ffrindiau am y tro cyntaf ac i weld yr holl ddarlithwyr a thiwtoriaid. Y penderfyniad orau gwnes i oedd dod i Met Caerdydd a dwi wir yn mwynhau pob elfen o’r cwrs ac o fywyd Prifysgol. Rwyf yn sicr yn annog unrhyw fyfyrwyr i wneud y fwyaf o’i iaith Gymraeg a dewis i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn oed os and ydych wedi’u siarad ers blynyddoedd!