Skip to content

Fy mhrofiad lleoliad Busnes a Rheoli yng Nghanolfan Seibergadernid Cymru

featured photo
featured photo

Fy enw i yw Keira Davies a dwi’n mynd mewn i fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Busnes a’r Gyfraith ym Met Caerdydd.

Dechreuais gyda’r Ganolfan Seibergadernid Cymru yn Ebrill 2021 yn gwneud profiad gwaith, roeddwn yn edrych o gwmpas am brofiad gwaith i wneud yn fy ail flwyddyn i gael profiad cyn i mi fynd mewn i’r drydedd flwyddyn a gorfod rhoi pen i lawr. 

Wrth edrych, gwnaeth y profiad yma nal fy llygaid oherwydd un o’r modiwlau yn fy ail flwyddyn am y Gyfraith oedd troseddau seibir felly roedd hyn yn swnio’n berffaith! Ymgeisiais am y swydd ac mewn wythnos cefais i e-bost nôl yn dweud fy mod wedi cael swydd fel rheolwr perthynas cleientiaid yn y busnes newydd yma. Roeddwn wrth fy modd! 

Fel rheolwr perthynas cleientiaid dwi’n cymryd galwadau ffôn o aelodau sy’n cofrestru i’r ganolfan. Trwy ddefnyddio  salesforce ac Excel dwi’n rhoi gwybodaeth y cleient i mewn, byddaf hefyd yn anfon e-byst ac yn archebu apwyntiadau ar gyfer DI Michael Prestion a’r cynghorydd gwasanaeth Danielle Healy. Ar y diwrnodau nad ydym yn derbyn unrhyw aelodau newydd, byddaf yn cael tasgau fel gwneud cyflwyniad ar gyfer y DC a oedd yn brofiad gwych! Er chwysu llawer!

Rwyf hefyd wedi gwneud anfonebau ar gyfer cleientiaid, ac wedi cael diwrnod o wneud photoshoot ar gyfer y ganolfan, a oedd yn gymaint o hwyl bod yn fodel ar gyfer y diwrnod! Mae’r ganolfan hefyd wedi fy helpu cymaint gyda fy musnes bach gwnes i ddechrau yn ystod y pandemig yn 2020. Roeddent wedi sefydlu photoshoot yr un diwrnod ar gyfer fy nghynnyrch a chafodd ei gyhoeddi fel erthygl mewn papur newydd sy’n gyfle anhygoel i mi.

Mae cymaint o sgiliau rydw i wedi’u hennill trwy’r profiad hwn fel defnyddio Excel, nad oedd gen i unrhyw syniad o’r  blaen sut i’w ddefnyddio’n iawn ac rydw i nawr yn mewnbynnu gwybodaeth cleientiaid yn ddyddiol. Rwyf hefyd wedi bod yn defnyddio mwy o Linkedin ers bod gyda’r ganolfan sydd wedi helpu. Mae gallu siarad Cymraeg wedi bod yn fanteisiol gan fy mod i wedi cael cleientiaid Cymraeg ac rydw i wedi bod wrth fy modd yn gallu defnyddio fy iaith gyntaf yn ystod y profiad hwn.

Bydd y profiad hwn yn rhoi cychwyn da imi wrth ymgeisio am swyddi gan fod hwn yn gyfle profiad unigryw na fydd gan lawer o bobl ar eu CV wrth ymgeisio am swydd, mae hyn hefyd yn rhywbeth y mae gen i ddiddordeb mewn ei gael pan rydw i’n chwilio am swydd.