Helo, fy enw i yw Rhiannon Gwyn ac astudiais i ar y cwrs BA (Anrh) Arlunydd Ddylunydd: Gwneuthurwr ym Met Caerdydd. Cefais fy annog llawer tra’n astudio ar y cwrs i arbrofi gymaint ag y gallwn.
Felly pam llechi?
Gan fod llechi wedi deillio o glai roedd yn gwneud synnwyr i mi geisio gyfuno’r ddau ddeunydd a defnyddio llechi gyda phrosesau cerameg. Roeddwn yn gweld bod llechi a clai yn cyd fynd gyda’i gilydd yn dda yn weledol a hefyd gyda’r syniadau y tu ôl i fy ngwaith o geisio cyfleu tirwedd Eryri.
Rwyf wedi dod i ddeall gallu’r deunyddiau trwy brofion cynhwysfawr. Rwyf wedi darganfod ffyrdd o danio llechi yn yr odyn fel bod deunydd caled hwn yn mynd yn hawdd i’w drin pan gaiff ei danio i dymheredd digon uchel.
Mae’r llechen yn amrywio yn ei hymateb wrth gael ei thanio mewn odyn gan ei bod yn dibynnu ar ei maint, o ba chwarel y mae’n dod a’r priodweddau yn y garreg. Rwy’n gallu ei rheoli trwy siapio a mowldio’r llechen i greu llinellau crwm a thonnog fel y gellir defnyddio’r slabiau o lechi fel silffoedd unigryw.
Defnyddiaf y silffoedd llechi fel darnau i ddal i fy mowlenni ceramig. Mae darnau o lechi Cymreig wedi eu gosod ar arwyneb pob bowlen a wnaf neu mae’r gwydredd sy’n cael ei daenu ar y powlenni wedi’i wneud o lechi neu ddeunyddiau eraill o’r dirwedd megis blofau’r eithin.
Ennill Cystadleuaeth Prif Artist Eisteddfod T 2021
Gyda’r gwaith yma y gwnes i benderfynu cystadlu yn gystadleuaeth Prif Artist Eisteddod T 2021. Braint ar y mwyaf a syrpreis neis oedd ennill y wobr . Dwi wrth fy modd efo gwaith Lisa Taylor (y beirniad) ac yn edmygu hi gymaint fel artist felly roedd o’n deimlad arbennig iawn mai hi oedd yn dyfarnu’r tlws.
Fel artist sy’n gweithio’n yn fy myd bach fy hun mae’n bwysig cael adborth allanol bob hyn a hyn er mwyn cael cadarnhad bod fy ngwaith ar y trywydd iawn felly fydd sylwadau positif Lisa yn gymorth mawr wrth i mi ddatblygu fy ngwaith.
Ar hyn o bryd dwi’n mwynhau gweithio fel artist o fy stiwdio adra yn Sling ger Bethesda.
Fues i yn llwyddiannus yn derbyn lle ar gwrs ‘Crafting Business’ y Craft Council sef cwrs ar gyfer gwneuthurwyr sydd yn eu blynyddoedd cyntaf ei gyrfa.
Yn rhan o’r cwrs rwyf yn cael gweithdai a sgyrsiau wythnosol dros Zoom yn dysgu am yr hyn mae’n ei olygu i redeg busnes yn y byd Celf a Chrefft. Mae derbyn y cymorth yma yn hynnod o werthawr.
Fy mwriad yw parhau i arbrofi gyda deunyddiau a chreu gweithiau ar gyfer arddangos. Rwy’n gwerthu gwaith drwy siop ar lein ar fy ngwefan ac yn derbyn amrywiaeth o gomisiynau felly dydi’r gwaith creu byth yn stopio.
Y casgliad fwya diweddar dwi’n gweithio arno yw cyfres o blatiau wedi’u hysbrydoli gan ac yn cynnwys darnau o farddoniaeth Dad ( Y Prifardd Gwynfor ab Ifor). Roedd hefyd yn caru ei bentref genedigol a’r dirwedd o’i amgylch sy’n amlwg yn ei waith. Dwi’n cael fy ysbrydoli yn barhaus gan y geiriau y mae wedi gadael ar ei ôl.
Does yna ddim llawer o gyfleoedd o fewn y celfyddydau ar gyfer artistiaid yn enwedig ers y pandemig felly mae’n rhaid neidio ar unrhyw gyfle sy’n codi. On i’n gweld cystadlu yn gyfle grêt i geisio cael fy ngwaith i gyrraedd cynulleidfa newydd.
Gan fy mod yn 24 oed, hwn oedd fy nghyfla olaf i gystadlu fel ‘person ifanc’ yn yr Urdd, oni’n 22 oed ar ddechrau’r pandemig ac yn 24 oed wrth i ni (gobeithio) ddod allan ohono fo felly mae angen gneud y mwya o gystadlu a’r manteision o fod yn ‘ifanc’ tra dwi’n gallu!








