Skip to content

Astudio Addysg Gynradd gyda SAC: Fy mhrofiad mor belled ar y cwrs

featured photo
featured photo

Ar ôl cael y profiad yn hyfforddi wrth astudio fy BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon, datblygais angerdd dros drosglwyddo gwybodaeth a helpu plant i ddatblygu ymhellach.  Felly, penderfynais i siarad gyda fy nhiwtor am yr angerdd yma ac ar ôl meddwl yn ofalus, penderfynais wneud cais am le ar y cwrs Addysg Gynradd BA gyda SAC (Statws Athro Cymwysedig) ym Met Caerdydd.  Yn wreiddiol o Ynys Môn, roedd parhau ar fy nhaith academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg wastad yn flaenoriaeth.

Felly, sut brofiad yw astudio’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg? Dyma fy nhaith hyd yn hyn…

Y cwrs Addysg Gynradd gyda SAC

Ar ôl cofrestru ar y cwrs BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC trwy gyfrwng y Gymraeg, llwyddais i ddatblygu fy sgiliau iaith a fy nghymuned o ffrindiau Cymraeg ymhellach.  

Os ydych chi’n meddwl am fynychu’r brifysgol i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, fy nghyngor i yw ewch amdani! Nid yn unig cewch chi ddatblygu yn eich maes a chael mynediad i ddarlithwyr arbennig, cewch hefyd cyfarfod cyd-fyfyrwyr sydd yn rhannu’r un angerdd am y pwnc sydd yn siarad yr iaith brydferth.  

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi rhoi cyfleoedd gwych i mi fel adeiladu perthnasoedd â darlithwyr Cymreig sy’n rhoi gwybodaeth wych i mi o fewn y byd addysg. Rydw i wedi bod yn awyddus i ddysgu mewn ysgolion Cymraeg ers cychwyn y cwrs felly mae cael y profiad i wneud hyn yn wych! Mae’r gymuned Gymraeg yn un sydd yn tyfu ond er hyn mae’n un sydd yn llawn cymeriadau doniol ac unigryw.

Yn ystod fy lleoliad, fe wnes i greu cynlluniau gwers a’i chyflawni wrth arbrofi gyda gwahanol addysgeg. Wrth wneud hyn, rhoddodd fy mentor adborth beirniadol a defnyddiol i mi wella fel athro. Y peth pwysicaf i gofio fel athro o dan hyfforddiant yw bod llawer o gymorth ar gael i chi gan fentoriaid, ffrindiau a thiwtoriaid.

Llysgennad Cymraeg i’r Brifysgol

Fel Llysgennad Cymraeg i’r Brifysgol rydw i wedi cael y profiad o fynychu lawer o wahanol weithgareddau a digwyddiadau. Mae hyn wedi bod yn help mawr i wella fy sgiliau llafar yn yr iaith Gymraeg gan fy mod i yn cyfathrebu gyda phobl o wahanol rannau o Gymru. Rydw i wedi hefyd cyfarfod gymaint o bobl sydd wedi bod yn wych i ddod i nabod a fydd bendant yn ffrindiau am byth. Fyswn i’n awgrymu i unrhyw fyfyrwyr i fachu’r cyfle i fod yn Llysgennad Cymraeg i’r Brifysgol!|