Helo, fy enw i ydy Ela a dwi newydd gychwyn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Met Caerdydd.
Ers amser dwi wedi mwynhau chwaraeon a chymryd rhan mewn gwahanol gampau dros y blynyddoedd. Yn y chweched dosbarth cymerais wir ddiddordeb mewn iechyd ac ymarfer corff wrth astudio addysg gorfforol ac o hynny datblygodd fy mrwdfrydedd i astudio hyn ymhellach yn y brifysgol. Roeddwn yn bryderus iawn i gychwyn yn y brifysgol ac i astudio trwy’r Saesneg yn unig ar ôl astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ers i mi fod yn 3 mlwydd oed. Felly roedd yn wych i ddarganfod y gallwn astudio rhan o’m cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn syth diflannodd fy holl bryderon am y brifysgol pan eisteddwn mewn dosbarth gydag ugain o fyfyrwyr Cymraeg arall fel fi yn barod i gychwyn ar siwrnai newydd mewn pwnc chwaraeon. Ar ôl pythefnos dechreuwn ni i deimlo fel cymuned fach o fewn y garfan, nid yn unig ni’r myfyrwyr ond y darlithwyr Catrin Rowlands a Neil Hennessy hefyd.
Gan fod y dosbarth cymaint yn llai na’r darlithfeydd eraill roedd gwell cyfle i ni ddod i adnabod ein gilydd fel unigolion a magu perthnasoedd o’r cychwyn. Yn ogystal â hyn roedd y sesiynau pob tro gyda’r ymdeimlad hamddenol gyda mwy o gyfle i ofyn cwestiynau yn hyderus a chynnal trafodaethau. Does dim amheuaeth fod gan diwtoriaid Cymraeg perthynas cryf gyda myfyrwyr ac yn bendant mae hynny wedi bod o gysur i mi mewn achlysuron o ansicrwydd neu bryder dros y ddwy flynedd diwethaf.
Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae’r gallu i astudio yn y Gymraeg wedi rhoi’r cyfle i mi dderbyn ysgoloriaeth cymhelliant gan y Coleg Cymraeg trwy astudio 33% o’r cwrs yn y Gymraeg, sy’n rhoi £1500 i mi dros y tair blynedd. Hefyd eleni ges i’r cyfle i fod yn llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a dwi wir wedi mwynhau hyd yn hyn, yn rhannu fy mhrofiadau i a thrafod gyda myfiwyr eraill am astudio yn y Gymraeg.
Dwi wedi profi llwyth o fanteision o astudio yn y Gymraeg megis y cyfleoedd i gymdeithasu yn y Gymraeg o fewn dosbarthiadau llai, magu perthnasoedd agos gyda’r tiwtoriaid yn ogystal â’r fantais o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd a dysgu terminoleg yn y Gymraeg fydd yn fuddiol wrth chwilio am swydd yn y dyfodol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais yn ei hun ac yn ddeniadol i gyflogwyr, mae’r gallu i ddefnyddio terminoleg benodol i’r swydd gyda chleientiaid a chynghreiriaid yn y maes chwaraeon yn ogystal â gwahanol swyddi eraill yn fwy deniadol byth. Mae podlediad sŵn y stiwdants llawn brofiadau a sgwrsio rhwng myfyrwyr eraill yn astudio trwy’r Gymraeg gan gynnwys un gen i a llysgennad ysgol yn sgwrsio ac mae cael i chi wrando ar nawr ar spotify. Mae llwyth ar gael ar instagram @dyddyfodoldi a mwy o wybodaeth i gael ar wefan Coleg Cymraeg.
Dwi’n edrych ymlaen at fy trydedd flwyddyn yn y Met, mae’r amser wedi hedfan a dwi wir wedi mwynhau bob eiliad hyd yn hyn a’r cyfleoedd mae’r brifysgol wedi cynnig i mi. Dwi ar fin cychwyn fy mhrosiect terfynol yn y Gymraeg gyda Catrin yn fy ngoruchwylio sy’n wych am ei fod ni wir yn nabod ein gilydd erbyn nawr. Rydw i’n annog unrhyw un sy’n meddwl am astudio ym mhrif ysgol met Caerdydd ac yn well byth i astudio yn y Gymraeg ym Met Caerdydd i fynd amdani, mae cymaint o gymorth i’w gael, ni fyddech yn difaru!



