Skip to content

Bywyd ar ôl y Brifysgol: O’r wythnos Ffasiwn i raddedigion i redeg fy musnes fy hun a thu hwnt

Menna in the studio with some mannequins
Menna in the studio with some mannequins

Helo, fy enw i yw Menna, rwy’n fyfyriwr graddedig BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn diweddar o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (YGDC). 

Mae 4 mis cyfan wedi mynd heibio ers imi raddio, ac mae hi mor swreal meddwl yr amser hwn y llynedd roeddwn ar gamau cyntaf ymchwilio a samplu ar gyfer fy Nghasgliad Graddedig! 

Roedd ei greu yn daith hollol anhygoel, gyda llawer iawn o atgofion a chyfleoedd sydd heb os wedi fy arwain i’r lle rydw i heddiw. 

Roedd fy nghasgliad terfynol yn gyfle i mi wir arddangos fy hun fel dylunydd, gan ddefnyddio’r cryfderau a’r sgiliau a berffeithiwyd gennyf yn ystod fy amser ar y cwrs Dylunio Ffasiwn yn YGDC. Rwy’n hynod falch o’r casgliad, ac rwy’n credu ei fod yn wirioneddol amlygu fy ngalluoedd a’m hangerdd fel dylunydd. 

Roeddwn i’n hynod ffodus o gael un o’m dilladau wedi’u gwisgo ar catwalk Cynaliadwyedd Samsung X yn yr Wythnos Ffasiwn i Raddedigion (GFW) yn Llundain. Roedd hyn yn brofiad wirioneddol anhygoel a arweiniodd at gyhoeddusrwydd mawr, a llawer o gyfleoedd i gysylltu a chydweithredu â gweithwyr creadigol newydd trwy’r cyfryngau cymdeithasol. 

A model at Graduate Fashion Week wearing Menna's garments
Fy ngwaith yn cael ei fodelu yn yr Wythnos Ffasiwn i Raddedigion

Cefais hefyd y cyfle i gymryd rhan yng nghystadleuaeth marsiandïaeth TikTok X Graduate Fashion Foundation. Teithiais i lawr i Lundain i dreulio’r wythnos gyfan yn creu fy marsiandïaeth TikTok fy hun yr oeddwn i wedi’i ddylunio’n flaenorol. Roedd yn brofiad hollol anhygoel! Cefais y cyfle i weithio ar beiriannau lefel diwydiannol, mynychu teithiau ffatri, cwrdd a sgwrsio â’r tîm yn GFW a hefyd i rwydweithio â llawer o raddedigion dylunio diweddar eraill o bob rhan o’r DU.

Ers graddio, rydw i wedi gallu defnyddio’r sgiliau a ddysgais yn YGDC mewn sawl ffordd wahanol. Gan ddefnyddio’r technegau a ddatblygwyd gennyf yn ystod fy 3edd flwyddyn, rydw i wedi creu fy mrand fy hun, Naturesthreadss. Mae’r sgiliau, gwybodaeth ac estheteg dylunydd a berffeithiais gyda chymorth fy nhiwtoriaid i gyd wedi chwarae rhan bwysig yn y busnes hyd yn hyn. 

Ers graddio, rydw i hefyd wedi cysylltu â’r Ganolfan Entrepreneuriaeth, sydd wedi fy nghynorthwyo i sicrhau bod fy musnes yn broffesiynol a llwyddiannus. 

Rwy’n gweithio’n llawn amser ar hyn o bryd mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, lle rydw i’n defnyddio llawer o’r pethau a ddysgais yn ystod fy modiwl Addysgu mewn Celf a Dylunio yn yr ystafell ddosbarth. Ochr yn ochr â’m swydd bob dydd, rydw i hefyd yn gweithio ar fy musnes, yn gwneud cynnydd, perffeithio ac arbrofi ar gyfer mentrau busnes yn y dyfodol. Yn y dyfodol, rwy’n bwriadu atgyfnerthu’r sgiliau a ddysgais yn ystod fy modiwl addysgu trwy fy musnes, lle rwy’n bwriadu cynnig gweithdai a sgyrsiau. Roedd ennill profiad gwerthfawr drwy’r modiwl addysgu’n fanteisiol iawn i mi, oherwydd fe wnaeth fy helpu i fagu fy hyder a dysgu i fod yn drefnus, sydd wedi bod yn hanfodol wrth gychwyn fy musnes fy hun. 

Menna with her degree certificate
Graddio â gradd dosbarth cyntaf! 

Yn ddiweddar, cefais fy ngwahodd yn ôl i YGDC i gyflwyno sgwrs am fy nhaith yn y brifysgol, gan amlygu fy nghyflawniadau, fy nghynnydd, a’r pwyslais ar gynaliadwyedd yn fy nghasgliad a’m brand. Roedd hyn yn brofiad hyfryd iawn, ac roedd hi’n fraint i mi gael fy ngwahodd yn ôl fel myfyriwr graddedig. Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn gweithdai tebyg i hwn yn y dyfodol. Roedd e’n brofiad gwerthfawr iawn ac mae wedi rhoi’r hyder i mi ganlyn rhagor o sgyrsiau a gweithdai fel rhan o’m busnes yn y dyfodol.

Rwy’n ddiolchgar iawn am fy amser yn YGDC. Gallaf ddweud yn onest ei fod wedi fy natblygu i fod y dylunydd yr ydw i heddiw. Alla i ddim ag aros i weld yr hyn sy’n fy aros yn y dyfodol a sut y bydd y pethau a ddysgais yno o fudd imi yn y dyfodol. Diolch YGDC am y 3 blynedd fwyaf anhygoel!