Skip to content

Fy Nhaith i Addysgu – O astudio Astudiaethau Addysg Gynradd i TAR Cynradd drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd

, Fy Nhaith i Addysgu – O astudio Astudiaethau Addysg Gynradd  i TAR Cynradd drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS
, Fy Nhaith i Addysgu – O astudio Astudiaethau Addysg Gynradd  i TAR Cynradd drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS

Helo, fy enw i yw Amber Cripps, cyn-fyfyrwraig ar y cwrs BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog) a nawr yn astudio ar y cwrs TAR Addysg Gynradd, sydd yn barod yn gwrs ardderchog a dwi mor gyffrous i ddechrau fy ymarfer clinigol!  

Graddiais o’r brifysgol gydag Anrhydedd dosbarth 1af yn BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog) ac rwyf yn falch iawn ohoni hefyd. Ar ôl treulio tair mlynedd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar fy nghwrs israddedig roeddwn i’n sicr o barhau fy astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg i fedru addysgu trwy’r Gymraeg a mynychu ymarfer clinigol mewn ysgol gynradd Gymraeg.  

Astudio’r cwrs BA cynradd oedd y penderfyniad orau o ran y wybodaeth, profiad a’r mewnwelediad sydd gen i o addysg gynradd cyn i mi ddechrau ar y cwrs TAR i gymharu ag eraill a wnaeth astudio rhywbeth hollol ar wahân i fyd addysg. Roedd tair mlynedd o ffocysu ar y sector cynradd wedi datblygu fy hyder o nealltwriaeth personol o bob agwedd o addysg gynradd. 

Cefais i’r fraint enfawr y flwyddyn hyn o ennill Y Wobr Deon 2022 ar gyfer fy angerdd dros yr iaith Gymraeg, a’m ymrwymiad i sicrhau cyfleoedd cyfartal i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg addysg gynradd. Dyma oedd uchafbwynt fy ngyrfa byr hyd hyn ac yn gydnabyddiaeth o’m holl cydweithrediad â’r Prifysgol i sicrhau llais i’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg.  

Ynghyd â’m hangerdd dros y Gymraeg a’m mwynhad o weithio gyda phlant, addysgu cynradd fu fy newis gyrfa cyntaf erioed, ac rwyf wedi sicrhau bod fy holl benderfyniadau addysgol wedi cynnal fy llwybr i’r yrfa hon. Roedd fy nghwrs prifysgol yn cynnig cyfleoedd rheolaidd ar gyfer profiadau tebyg i waith a oedd yn caniatáu i mi ymgysylltu ag arfer cyfredol gan ddefnyddio’r strategaethau dysgu diweddaraf. O’m hamrywiaeth o brofiadau gwaith mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, rwyf wedi cael dealltwriaeth ehangach o sut mae plant yn gweithredu’n addysgol, yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn academaidd. 

I gyd-fynd â hyn, mae meithrin perthnasoedd proffesiynol cryf wedi bod yn gaffaeliad gwerthfawr trwy gydol fy ngyrfa fer a’m profiadau. Credaf fod creu perthnasoedd cryf ac ymddiriedus rhyngof i, fy nghydweithwyr a’r plant yn sicrhau’r cyfleoedd a’r profiadau cyfoethocaf i bawb, a chefais gyfleoedd i gwneud hyn yn ystod fy nhair blynedd o astudio, gan weithio mewn amrywiaeth o ysgolion a hefyd nawr yn fwy diweddar gyda fy nghyd-garfan o athrawon dan hyfforddiant. Cyngor enfawr i fyfyrwyr yw i ddod i adnabod pawb yn y Brifysgol, mae pawb yna i’ch cefnogi. 

Fy nghyngor arall i unrhyw myfyrwyr naill ai’n decrhau blwyddyn 1 BA neu’n ystyried mynd am y cwrs TAR flwyddyn nesaf, gwnewch trwy gyfrwng y Gymraeg, hyd yn oed os nad ydych wedi siarad yr iaith am gyfnod hir, fi fydd yn dod yn ôl yn naturiol ac rwyf wedi profi hyn gyda cyd- myfyrwyr ar y cwrs TAR yn barod y flwyddyn hyn.  

Mae gan yr adran addysg Gymraeg tiwtoriaid a chynorthwywr wych sydd eisiau eich helpu cymaint a gallent, mae gennych cyfleoedd i gyfoethogi a gwella eich iaith trwy gydol y ddau gwrs felly peidiwch feddwl nad ydych yn digon da. Mae’r adran Gymraeg fel teulu agos sydd yna i bawb.