Ydych chi wedi dod yn fwy ymwybodol o’r iaith Gymraeg yn ddiweddar?
Efallai’ch bod chi wedi clywed sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney sy’n cyd-berchen ar glwb pêl-droed Wrecsam yn siarad Cymraeg? Neu wedi gweld yr iaith yn cael ei defnyddio fwyfwy gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru?
Mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru ac mae gennym ni ddeddfwriaeth yma yng Nghymru i warchod yr iaith. Rhaid i’r Brifysgol gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac mae’r rhain yn sicrhau nad yw’r iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Safonau hefyd yn rhoi hawliau i fyfyrwyr Cymraeg i dderbyn ystod eang o wasanaethau Cymraeg oddi wrth y Brifysgol.
Mae hyn yn amrywio o ddogfennau a ffurflenni i ddeunydd sy’n cael ei arddangos o gwmpas y campus; ac o’r wefan a’r fewnrwyd i apiau, rhaglenni a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd gan ein myfyrwyr yr hawl i gyflwyno asesiadau a sefyll arholiadau yn Gymraeg yn ogystal â chael tiwtor personol Cymraeg. Mae’r hawliau hyn yn cael eu hyrwyddo a’u dathlu bob blwyddyn ar 7 Rhagfyr, sef Diwrnod Hawliau’r Gymraeg!
Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i fyw eu bywydau drwy’r iaith ac mae’r Brifysgol eisiau hyrwyddo a chefnogi hynny. Mae gan Undeb Myfyrwyr y Brifysgol Swyddog Cymraeg, sef Bo Leung, sydd nid yn unig yn sicrhau bod llais y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn ganolog i weithrediadau’r Brifysgol, ond hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol i’r Gym Gym.
Cysylltu: SUswyddogcymraeg@cardiffmet.ac.uk
Instagram: @swyddog_gymraeg_metcaerdydd
Mae’r iaith yn perthyn i ni gyd, felly ymunwch yn y dathlu heddiw drwy ddefnyddio #MaeGenIHawl


