Skip to content

Cefais gyfle i ddod i adnabod fy hun ym Met Caerdydd

Ben Phillips running with blue background
Ben Phillips running with blue background

Mae astudio ym Met Caerdydd yn cynnig llu o gyfleoedd cyfoethog ac amrywiol ar gyfer hunan-dwf a datblygiad.  

Mae Met Caerdydd wedi meithrin fy mrwdfrydedd o ran gweithio ac rwyf wedi datblygu ffocws a chymhelliant diwyro.  

Rwyf wedi gallu defnyddio’r cyfleusterau chwaraeon gwych i wella fy sgiliau rhedeg ac rwyf hefyd yn gweithio ar gwblhau fy Ngwobr Dug Caeredin Aur. Dysgodd hyn i mi bwysigrwydd gwydnwch a’r gallu i addasu.  

Mae’r gefnogaeth a gefais ym Met Caerdydd yn ystod fy BSc mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff wedi fy nysgu i ddefnyddio blaengaredd pan fo angen i mi oresgyn heriau newydd.  

 Mae holl staff Met Caerdydd yn sylwgar ac yn groesawgar, ac mae fy nghyfoedion wedi bod yn gefnogol ac yn gyfeillgar.