Ymgeisio i astudio’r cwrs MSc Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. Graddiais mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol De Cymru yn 2018, ac ar ôl graddio, gwnes i ymlid yrfa mewn modelu ar ôl fod ar Britain’s Next Top Model y flwyddyn flaenorol. Yn 2019, cynrychiolais Gymru ym Miss Byd, a dwi dal yn Miss Cymru hyd yn hyn. Ar ôl y profiadau hyn o flaen y camera, penderfynais fy mod eisiau cyfuno fy nghariad at chwaraeon a’r diwydiant creadigol i fod yn ddarlledwr chwaraeon.
Er ei bod wedi bod yn anodd yn ystod y pandemig, mae wedi bod yn brofiad anhygoel sydd wedi newid fy mywyd yn llawn a rhoi cyfleoedd anhygoel i mi. Pan ddechreuais y cwrs, roeddwn i eisiau bod yn gyflwynydd chwaraeon ar y teledu. Ond yn ystod y cwrs, dwi wedi dysgu gymaint o sgiliau arall fel dysgu sut i greu cynnwys ar gyfer llwyfannau digidol amrywiol, rydw i wedi cyfarwyddo ffrydiau byw, cynhyrchu sioeau radio Cymraeg, ffilmio criced yn Sofia Gardens, a gweithio ar livestream pêl-fasged, timau pel droed Met Caerdydd a’r twrnamaint y Cwpan Cyncoed.
Ym mis Ionawr, dechreuais bodlediad o’r enw ‘She Has a Goal in Mind’ am fenywod mewn chwaraeon gyda Darcey Morris sydd hefyd ar y cwrs. Nod y podlediad yw dylanwadu mwy o ferched a menywod i gymryd rhan a gweithio yn y byd chwaraeon. Rydym wedi cael gwesteion anhygoel hyd yn hyn, gan gynnwys Laura McAllister, ymladdwr UFC o Gymru, Cory McKenna, a gohebydd chwaraeon a chyflwynwr Scrum V, Catrin Heledd. Rydyn ni’n recordio, a chynhyrchu’r podlediad ein hunan. Mae’r podlediad ar gael ar bob platfform ffrydio da gan gynnwys Spotify ac Apple Podcasts. Rydyn ni wedi cael adborth gwych hyd yn hyn ac rydw i mor falch o beth rydyn ni wedi’i gyflawni gyda hyn.
Dwi hefyd wedi cael cyfle gwych i gael interniaeth cyfryngau gyda Chynghrair Rygbi Cymru, gan helpu i ffilmio a chynhyrchu cynnwys ar gyfer tîm y menywod yn enwedig yn y cyfnod cyn eu gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Lloegr ym mis Mehefin. Mae’n wych i allu defnyddio’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu ar y cwrs a’u rhoi nhw i ymarfer mewn amgylchedd chwaraeon elitaidd. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gyda Celtic Dragons, cwmni Eat Sleep Media, ac yn fwy diweddar y Gweilch. Cyn bo hir, byddaf yn cyflwyno prosiect newydd a chyffrous ar Ospreys TV. Cefais wahoddiad hefyd ar BBC Radio Cymru fel rhan o’r panel chwaraeon.
Yn ystod fy amser ar y cwrs hwn, rwyf wedi cymryd bob cyfle sydd wedi dod fy ffordd. Rwyf mor ddiolchgar i Met Caerdydd am yr holl gyfleoedd anhygoel hyn, ac am gymorth y darlithwyr. Rwy’n drist y bydd yr ochr addysgu yn dod i ben yn fuan, rwyf wedi mwynhau pob eiliad. Rwy’n edrych ymlaen yn awr at greu fy rhaglen ddogfen chwaraeon dros yr haf ar gyfer fy nhraethawd hir. Rwy’n falch o fod yn rhan o brifysgol mor anhygoel. Diolch i Met Caerdydd am bopeth.




