Helo, fy enw i yw Gruffydd Evans, ac rwy’n dod at ddiwedd fy mlwyddyn o astudio ar y cwrs TAR Cynradd yma ym Met Caerdydd. Rydw i’n hynod o falch fy mod wedi cael cyfle i arallgyfeirio fy ngyrfa ar ôl penderfynu fy mod eisiau bod yn athro yn sgìl y pandemig Covid-19. Roeddwn wedi cael profiad yn y diwydiant addysg cyn y cwrs fel cymhorthydd a goruchwyliwr dosbarth mewn ysgolion yn ogystal â gweithio fel actor â chwmni theatr mewn addysg. Rydw i wedi bod yn hynod o ddiolchgar fy mod wedi cael ail-gyfle i roi fy sgiliau academaidd a pherfformio at bwrpas newydd er mwyn ysgogi’r genhedlaeth nesaf o ddisgyblion.
Ceir 24 o fyfyrwyr ar y cwrs TAR cyfrwng y Gymraeg eleni, gyda’r grŵp cyfan wedi’i haneru i ddau grŵp ar gyfer ein sesiynau prifysgol rithiol Teams ac ymarferol yn y brifysgol. Cefais gyfle i weithio â phawb yn fy ngrŵp a theimlaf fy mod wedi magu ffrindiau newydd. Rwyf wedi bod yn hynod o ffodus i gael cyfle i fod yn gynrychiolydd myfyrwyr y cwrs er mwyn rhoi llais i fyfyrwyr yn ystod cyfnodau trwm o waith, hwyluso profiad y myfyrwyr yn ogystal â chyfathrebu â myfyrwyr ar y cwrs cyfrwng Saesneg ac addysgwyr arloesol a chyfoes y sector addysg.
Heb os nac oni bai, mae’r cwrs wedi bod yn un heriol ac yn amrywiol o ran profiad i bob unigolyn o ganlyniad i natur a rhwystrau Covid. Serch hynny, mae gofal a chyfathrebiad y brifysgol wedi bod yn gyson â phwyslais a blaenoriaeth enfawr ar gydbwysedd gwaith a lles y myfyrwyr. Yn bersonol, rydw i wedi bod yn ffodus i allu manteisio ar y profiad o addysgu a dysgu’n rhithiol drwy gael cyfle i weithredu gwersi ar-lein ac ar lawr y dosbarth- dau sgil na fyddai wedi bod yn bosib mewn blwyddyn arferol.
Yn sicr, mae’r dechnoleg a thechnegau dysgu cyfunol wedi trawsffurfio sut mae addysg yn cael ei darparu. Rwyf wedi datblygu a meithrin technegau arloesol ar draws y flwyddyn, megis ‘Screen Castify’ ar ddiwrnodau hyfforddiant y brifysgol ac ysgolion arweiniol sydd wedi fy nghynorthwyo i baratoi recordiadau byw, anghydamserol o wers ar ffurf ‘PowerPoint’. Yn sicr, roedd technegau fel hyn wedi fy helpu i greu gwers sy’n cyfuno sgiliau rhithiol a rhoi’r argraff o reoli dosbarth ar gyfer cyfweliad swydd. Heb amheuaeth, cyfrannodd hyn at gynnig swydd athro yn Ysgol Y Castell ar gyfer mis Medi 2021.
Un fantais o wneud y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yw’r cymorth a’r ddeialog gyson a gewch â thiwtoriaid personol y brifysgol, megis Sioned Dafydd a Kris Sobol, yn ogystal â sesiynau Gloywi Iaith reolaidd i gyfoethogi a datblygu myfyrwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r hyfforddiant a’r adborth sy’n cael eu darparu yn hynod o werthfawr wrth drochi plant yn yr iaith sydd heb gael cyfle i ymarfer eu llafaredd yn ystod cyfnodau clo a rhoi cyfle iddynt drafod a chyfathrebu teimladau a syniadau wrth ymdopi â’r pandemig.
Y prif beth fuaswn yn argymell i chi’i wneud ar y cwrs yw ymroi i bob cyfle sydd ar gael yn eich Ysgolion Clinigol. Arsylwch arfer dda gwersi eich mentoriaid, uwch fentoriaid ac yn fwy na dim y plant. Siaradwch â’ch cyd-fyfyrwyr am broblemau neu lwyddiant oherwydd bydd y perthnasau yr ydych yn eu meithrin ar draws y flwyddyn yn rhai a fydd yn aros am weddill eich bywyd. Gweithredwch ac arbrofwch â gwaith ymchwil diwrnodau hyfforddiant yn ogystal â gwaith ymchwil personol. Ond yn bennaf, mwynhewch y profiad o hyrwyddo a datblygu addysg eich disgyblion drwy wrando ar eu hangenhion a’u diddordebau fel bod ganddynt gyfle cyfartal i ddatblygu’n ddysgwyr ac unigolion egwyddorol.



