Skip to content

Fy nhaith mewn i addysgu- fy mhrofiad ar y cwrs TAR Uwchradd Hanes

featured photo Lowri Daniels
featured photo Lowri Daniels

Fy enw i yw Lowri a dwi i yng nghanol fy mlwyddyn ANG yn addysgu Hanes, Cymdeithaseg a Dyniaethau yn ysgol uwchradd cyfrwng Gymraeg. Cyflawnais fy nghymhwyster SAC trwy wneud y cwrs TAR Uwchradd Hanes ym Mhrifysgol Met Caerdydd llynedd.

Cyn dechrau fy nhaith mewn i’r byd addysg, astudiais BA Hanes ym Mhrifysgol Bryste, a gweithiais yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru fel cynorthwyydd amgueddfa am dros flwyddyn ar ôl graddio. Ac felly, nid oedd fy nhaith mewn i addysg yn un hollol linol. Fodd bynnag, llywiodd fy mhrofiadau yn ystod fy swydd gyntaf yn y diwydiant treftadaeth fy awydd i ymuno â’r proffesiwn dysgu.

Hoffwn i allu ddweud roedd dysgu wastad yn y swydd o fy mreuddwydion fel plentyn a thrwy gydol prifysgol, ond y gwirionedd yw doeddwn i ddim yn hollol sicr pa faes neu broffesiwn roeddwn i eisiau gweithio o fewn nes i mi adael Prifysgol Bryste – ac mae hynny yn hollol naturiol i nifer o bobl ifanc.

Er hynny, rydw i wastad wedi bod yn sicr iawn am beth sy’n fy ysbrydoli, beth dwi’n angerddol am, a beth yw fy ngwerthoedd personol. Hynny yw, mae gen i awydd naturiol i helpu ac ysbrydoli eraill, mae gen i angerdd am Hanes, diwylliant a threftadaeth, ac mae’n hynod bwysig i mi allu byw fy mywyd gyda’r iaith Gymraeg yn byw ochr yn ochr efo Saesneg.

Mae dysgu yn swydd sydd yn hollol adlewyrchu’r gwerthoedd personol hynny sydd gen i, ac rwy’n falch ddweud bod Met Caerdydd wedi chwarae rhan fawr mewn fy hyfforddi fi i fod yn yr athrawes gorau y gallai o fewn y swydd fwyaf perffaith i mi. O’r eiliad dysgais fy ngwers gyntaf ar fy lleoliad gyntaf o’r cwrs TAR, roeddwn i’n gwybod mae dysgu oedd yn bendant yr yrfa berffaith i mi. Rydw i’n caru bod o flaen y dosbarth, ac wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen datblygais angerdd am addysgeg a Dyniaethau fel Maes Dysgu a Phrofiad o’r Cwricwlwm Newydd.

Fel unigolyn sydd yn dod o gartref iaith Saesneg, ond sydd wedi derbyn addysg Gymraeg, mae hi’n oll bwysig i mi fod y Gymraeg yn rhan o fy mywyd bob dydd. Ac felly, y cam naturiol i mi oedd cyflawni fy nghwrs TAR yng Nghymru, gyda phrifysgol adnabyddus am safon ei addysg ôl-raddedig Gymraeg – sef Prifysgol Met Caerdydd.

Os ydych yn dewis astudio’r cwrs TAR trwy gyfrwng y Gymraeg, mae cymorth ddi-baid yn dod o’r adran Gymraeg trwy gydol y flwyddyn, llaw yn llaw gydag arweiniant pynciol o arweinwr eich pwnc penodol. Roedd nifer o gyfleoedd i gyfathrebu gyda gweddill y myfyrwyr cwrs TAR dros y flwyddyn hefyd yn ystod diwrnodau anwytho wedi eu harwain gan brif fentoriaid ysgolion mwyaf blaengar De Cymru.

Darparodd y diwrnodau anwytho yma gyfleodd i fyfyrio ar dechnegau addysgeg i ddefnyddio yn yr ystafell dosbarth, hyfforddiant ar gynllunio gwersi o safbwynt y Cwricwlwm Newydd, ac wrth gwrs i ddal lan gyda’ch cyd-fyfyrwyr i rannu profiadau, dysgu o’ch gilydd, a chreu perthnasoedd positif a chefnogol o fewn y proffesiwn am weddill eich gyrfa.

Er gwaethaf yr heriau a’r newidiadau annisgwyl mae 2020 a 2021 wedi taflu at bawb ond yn enwedig ysgolion, mae fy mlwyddyn ANG a blwyddyn TAR wedi bod yn ddwy flynedd fwyaf gwerthfawr fy mywyd hyd yn hyn.

Dechreuais fy nhaith yn disgwyl i fod yn athrawes Hanes, ond oherwydd hyfforddiant arbenigol Met Caerdydd ac arweiniant arbennig o’r ysgolion lleoliad dysgu, rydw i nawr yn athrawes Hanes, Cymdeithaseg a Dyniaethau sydd yn hyderus a chyffrous i ddechrau gyrfa wedi ei seilio o fewn gwerthoedd ac egwyddorion y Cwricwlwm Newydd i Gymru.