Skip to content

Fy nhaith yn astudio’r cwrs Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda SYBC (Dwyieithog)

Anna
Anna

Helo, fy enw i yw Anna a dwi ar hyn o bryd yn dod i ddiwedd yn fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn astudio BA Addysg Gynnar ac Ymarfer proffesiynol gyda SYBC (Dwyieithog) sydd wedi gwibio heibio. Yn bendant un o’r dewisiadau mwyaf anodd am fynd i’r brifysgol yw dewis pa bwnc i’w astudio.

Nid ar chwarae bach mae penderfynu ar faes y byddwch yn canolbwyntio arno am y blynyddoedd nesa wedi’r cyfan. Y cyngor gorau dwi’n gallu ei roi yw i ddewis pwnc rydych yn ei fwynhau ac sydd wir o ddiddordeb i chi.

Yn wreiddiol doeddwn i ddim yn ymwybodol bod modd astudio’r cwrs hyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Er hyn, roedd parhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol yn elfen bwysig i mi gan fy mod wedi cael fy holl addysg yn Gymraeg.

Dwi wastad wedi siarad Cymraeg gyda ffrindiau a theulu a dwi’n teimlo’n fwy hyderus i ysgrifennu yn Gymraeg. Pan mae’n dod i gyflawni gwaith ac aseiniadau, mae’r cwrs yn hyblyg am gyflwyno gwaith mewn iaith Gymraeg neu Saesneg.

, Fy nhaith yn astudio’r cwrs Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda SYBC (Dwyieithog), CARDIFF MET BLOG
Cefais y brofiad o gyfrannu tuag at y prosbectws Cymraeg cyntaf!

Mae fy mhrofiad o’r cwrs yn fy mlwyddyn gyntaf wedi bod yn ddiddorol, eang, gwobrwyol a hwylus. Mae’r cwrs wedi cynnig nifer o fodiwlau gwahanol yn cynnwys; Ymarfer Proffesiynol: Datblygu Ymarfer Effeithiol, Diogelu ac Amddiffyn Plant a’r Unigolyn sy’n Datblygu. Mae’r radd mor belled wedi rhoi syniad i mi yr ystod eang o yrfaoedd sy’n gysylltiedig a’r cwrs; megis gwaith cefnogi teuluoedd, iechyd a gofal cymdeithasol a gwaith cymunedol.

Mae hanner y cwrs yn cynnwys gwaith dysgu yn y brifysgol a’r hanner arall yn gyfle i fynd mas ar leoliad ymarferol. Fel cwrs rydym ni’n cael y cyfle i weithio mewn Meithrinfa neu Ysgol Gynradd gwahanol bob blwyddyn. Roedd y gallu i gael profiad gwaith yn gysylltiedig a’r cwrs yn bwysig i mi er mwyn datblygu hyder yn gynnar wrth weithio gyda plant bach.

, Fy nhaith yn astudio’r cwrs Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda SYBC (Dwyieithog), CARDIFF MET BLOG
Gyda’n darlithwyr a chyd-fyfyrwyr ar y cwrs

Trwy gydol y flwyddyn mae’r darlithwyr wedi bod yn hynod o gefnogol gydag unrhyw ddarn o waith a chwestiynnau ac unrhyw bryder sydd gennym ni ynglyn a’r cwrs. Un o fy hoff bethau am y cwrs yma yw does dim swydd neu gyrfa penodol ar ddiwedd y cwrs. Mae’r cwrs yn cael ei hadnabod i gynnig llwybrau eang iawn o fod yn rheoli meithrinfa, lles addysgol neu yn swyddogion addysg leol ar gyfer awdurdodau.

Dros y gwyliau haf dwi wedi cael y cyfle i gymryd pythefnos o brofiad gwaith gyda Chyngor Caerdydd yn y sector Plentyndod Cynnar yn edrych sut maent yn gweithio gyda gwahanol gosodiadau ac yn edrych ar waith sy’n digwydd ‘behind the scenes’ lle mae’r holl waith yn digwydd.