Skip to content

Bywyd ar ôl graddio-edrych ymlaen i’r bennod nesaf gyda’r cwrs TAR!

chelsea 2
chelsea 2

Helo fy enw i yw Chelsea a dwi newydd raddio wythnos ddiwethaf ar y cwrs Astudiaethau Addysg Gynradd! Roedd dewis y cwrs yn ddewis cwbl hawdd i mi. 

Roeddwn wastad yn edrych ar fy athrawon fel ysbrydoliaeth a chredaf dyma lle sbardunodd fy nghariad tuag at ddysgu ac addysgu. Ers hynny, gweithiais drwy’r ysgol uwchradd gyda’r nod o gwblhau cwrs TAR ac i ddod yn athrawes ysgol gynradd.

Dros y tair blwyddyn ddiwethaf mae’r cwrs hyn wedi ehangu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o addysg gynradd ac archwilio pob agwedd o addysg, datblygiad plant, addysg fyd-eang a sawl fater eraill.

Mae hefyd wedi cynnig mewnwelediad i’r cwricwlwm newydd yng Nghymru a weithredir gan Donaldson gan gynnwys cyfle i fynychu cynadleddau addysgol. Roedd hefyd cyfleoedd i gydweithio ag ysgolion i ddatblygu cymhwysedd digidol, dysgu yn yr awyr agored a lles emosiynol gyda ‘mindfullness’.

Roedd cynllun y cwrs yn effeithiol gan fod pob blwyddyn yn cynnwys modiwlau diddorol gyda rhai yn arwain ymlaen i’r flwyddyn ganlynol. Roedd cynllun yr asesiadau hefyd yn effeithiol gan fod cyfuniad o draethodau, blogiau, cyflwyniadau, cyflwyniadau poster ac arholiadau ar-lein oedd yn sicrhau nad oedd y gwaith yn mynd yn ailadroddus.

, Bywyd ar ôl graddio-edrych ymlaen i’r bennod nesaf gyda’r cwrs TAR!, CARDIFF MET BLOG

Er fy mod i wedi dewis dilyn y trywydd dysgu a symud ymlaen at y cwrs TAR, fe’i gwneir yn glir ar y cwrs bod amryw o swyddi y gallech ddilyn nid yn unig dysgu.   

Un o’r prif fanteision oedd y gallu i astudio’r cwrs yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg . Ar y pryd roeddwn yn teimlo mae dyma oedd y cam naturiol ar ôl astudio fy addysg gyfan trwy’r Gymraeg a hefyd astudio y Gymraeg fel lefel A.

Er hyn rhaid pwysleisio bod dim rhaid i chi deimlo’n gwbl hyderus er mwyn defnyddio’r Gymraeg gan fod cyfle gennych i gyflwyno pob aseiniad a chyflwyniad yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Roedd tiwtoriaid Cymraeg y cwrs yn cwbl gefnogol gyda phopeth yn sicrhau’r un cyfleoedd drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.

Yn ogystal â hyn, roedd nifer o fanteision arall dros astudio drwy’r Gymraeg gan gynnwys y grwpiau astudio llai, felly roedd cyfle i ddatblygu perthynas agosach gyda’ch tiwtoriaid a’ch cyfoedion a fwy o gyfle i ofyn cwestiynau ac i ehangu dealltwriaeth yn bellach. Roedd nifer o gyfleoedd i gymdeithasu drwy’r Gymraeg gan gynnwys y Gymdeithas Gymraeg a thripiau addysgol Gymraeg lle buom yn ymweld â Glan-llyn lle roeddem yn gallu cymdeithasu a grwpiau Cymraeg o brifysgolion eraill.

Credaf y fantais fwyaf o astudio yn y Gymraeg oedd y mentoriaid arbennig a oedd yn hynod o gefnogol ac yn cynnig pob cyfle bosib. O ganlyniad i gefnogaeth fy nhiwtoriaid, cefais y cyfle i weithio gyda’r Coleg Cymraeg fel llysgennad am flwyddyn lle bues yn hyrwyddo astudio drwy’r Gymraeg yn y brifysgol o fewn yr Eisteddfod, ymweliadau ysgolion a nifer o ffeiriau gwahanol.

Y cyngor byddaf yn cynnig i unrhyw fyfyrwyr sy’n dadlau astudio trwy’r Gymraeg yw ewch amdani, mae cymaint o gefnogaeth ar gael i chi, fyddwch chi ddim yn difaru eich penderfyniad.

, Bywyd ar ôl graddio-edrych ymlaen i’r bennod nesaf gyda’r cwrs TAR!, CARDIFF MET BLOG

Erbyn hyn dwi wedi cwblhau’r cwrs Astudiaethau Addysg Gynradd ac wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf gydag anrhydedd. Mae’r tair flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn rhai llawn heriau, chwerthin a dagrau ond mae wedi bod yn brofiad mor anhygoel sydd wedi fy mharatoi ar gyfer fy nyfodol mewn y byd addysgu.