Skip to content

Cafodd Hwb Strôc Cymru ei greu ym Met Caerdydd

, Cafodd Hwb Strôc Cymru ei greu ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS
, Cafodd Hwb Strôc Cymru ei greu ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS

Ar ôl cael fy ngeni yn Zimbabwe, fe ddes i Gaerdydd yn 2002 ar gyfer fy astudiaethau israddedig mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol, ac yna cwrs Meistr mewn Gwyddorau Biofeddygol (Microbioleg Feddygol).  

Ar ôl astudio Iechyd y Cyhoedd a Meddygaeth Ataliol (Epidemioleg) yn y Caribî, dychwelais i Gaerdydd a chwblhau PhD ar rôl gofal clwyfau yn seiliedig ar dystiolaeth yn 2016.  

Ar hyn o bryd fi yw rheolwr Hwb Strôc Cymru (HSC), er y bydd rhywun newydd yn cymryd yr awenau ym mis Ebrill 2023. Menter gan Lywodraeth Cymru oedd hon ar y dechrau – sydd bellach yn cael ei chynnal a’i chefnogi gan Met Caerdydd. Crëwyd HSC i feithrin ac ennyn rhaglenni ymchwil, arloesi ac addysg strôc gwell ar gyfer ein gweithlu strôc, clinigwyr, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ac ymchwilwyr.  

Mae HSC yn rhan o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, fel endid ar wahân. Dros y chwe blynedd diwethaf rydym wedi tyfu’n sylweddol.  

Yn ddiweddar, rydym ni wedi creu a lansio cwrs Meistr Ymchwil Strôc cyntaf Cymru. Ar hyn o bryd, mae gennym chwe myfyriwr llawn amser ar y cwrs hwn.  

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys creu Pwyllgor Cyfranogiad Cleifion a’r Cyhoedd HSC ar gyfer gwaith ymchwil strôc a chyd-gynhyrchu, Symposia Ymgysylltu â’r Cyhoedd, a phrosiectau ymchwil amlddisgyblaethol i enwi ond ychydig.  

Rwy’n ddiolchgar i Met Caerdydd am gefnogi a meithrin datblygiad Hwb Strôc Cymru, a gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau’r rheini sy’n cael eu heffeithio gan strôc a gwaith ymchwil i achosion, effeithiau a thriniaeth strôc.