Skip to content

Cefais fy Ysbrydoli i Newid ym Met Caerdydd

, Cefais fy Ysbrydoli i Newid ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS
, Cefais fy Ysbrydoli i Newid ym Met Caerdydd, CARDIFF MET BLOGS

Mae fy ngradd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Met Caerdydd wedi rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnaf i ddod yn weithiwr cymdeithasol, gan wneud newid cadarnhaol i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.  

Mae fy mhrofiadau yma hefyd wedi ehangu fy ngorwelion ac wedi fy herio i roi cynnig ar bethau y tu allan i fy nghylch cysur. 

Mae cwrdd â phobl ysbrydoledig, o’r un anian, ar fy nghwrs, sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, a gweithio fel Llysgennad Myfyrwyr ochr yn ochr â’m hastudiaethau wedi rhoi hwb i fy hyder. Rwyf wedi cael cyfleoedd i siarad â phobl o bob cefndir, yn ogystal â siarad mewn grwpiau mawr.  

Mae cymysgu â Llysgenhadon Myfyrwyr eraill sy’n astudio cyrsiau gradd gwahanol wedi golygu fy mod wedi gallu gwneud cysylltiadau â phobl na fyddwn fel arfer yn cael y cyfle i siarad â nhw. Mae rhannu ein straeon ac wynebu’r un heriau gyda’r rôl wedi ein gwneud ni’n un teulu mawr. 

Mae fy hyder a fy natblygiad personol a phroffesiynol parhaus hefyd wedi cael eu meithrin gan Undeb y Myfyrwyr. Enillais Wobr Met Caerdydd oherwydd fy angerdd i ddatblygu fy sgiliau a fy ngwybodaeth er mwyn llwyddo yn fy ngyrfa yn y dyfodol fel Gweithiwr Cymdeithasol.  

Mae Undeb y Myfyrwyr wedi adeiladu cymuned yn seiliedig ar berthyn, anogaeth ac ysbrydoliaeth. Mae croeso i bawb yn Undeb y Myfyrwyr, gallwch chi adeiladu cymuned trwy gymdeithas, datblygu eich hun gyda Gwobr Met Caerdydd, a chael hwyl trwy ymgysylltu â gweithgareddau a ffeiriau. 

Cyn fy nghwrs gradd, roeddwn i’n teimlo bod dechrau busnes yn dasg amhosibl. Ond yn ystod fy amser ym Met Caerdydd, rydw i wedi cwrdd â chyd-fyfyrwyr sy’n rhannu fy mreuddwydion o ddod yn entrepreneur. Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld busnesau pobl eraill yn tyfu gyda chymorth busnes a chyllid gan y brifysgol. 

Gyda chefnogaeth y Ganolfan Entrepreneuriaeth ym Met Caerdydd rwyf wedi datblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i ddilyn fy niddordebau dros fusnes a gwaith cymdeithasol a’u huno i lansio fy mrand dillad iechyd meddwl, In Waves Apparel.