Skip to content

Ehangu fy ngorwelion gyda phrofiad gwaith yng nghŵyl Diffusion

, Ehangu fy ngorwelion gyda phrofiad gwaith yng nghŵyl Diffusion, CARDIFF MET BLOG
, Ehangu fy ngorwelion gyda phrofiad gwaith yng nghŵyl Diffusion, CARDIFF MET BLOG

Roedd y cyfle i weithio gyda Ffotogallery ar gyfer eu gŵyl ffotograffiaeth “Diffusion” yn brofiad unigryw iawn. Gŵyl mis o hyd gydag arddangosfeydd, trafodaethau, dangosiadau, perfformiadau, digwyddiadau mewn gofodau a llefydd go iawn a rhithwir.

Fy interniaeth i oedd “Rhyngweithio ac Ymgysylltiad Ymwelwyr”, a bydd yn baratoad gwych ar gyfer gwneud fy meistr flwyddyn nesaf mewn Rheoli Celfyddydau yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Ni allaf ddechrau esbonio faint o sgiliau a phrofiadau dwi wedi’u ddysgu, ond nai drio fy ngorau.

Thema Diffusion eleni 2019 oedd Sain + Llun. Roedd yr wŷl yn archwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth a chyfryngau lens a sut mae sain yn dylanwadu ar y ffordd y caiff delweddau eu cyfyngu, cyflwyno a’u darllen yn ein diwylliant gweledol cyfoes; ac yn yr un modd, sut y gall cerddoriaeth fod yn brofiad gweledol yn ogystal â chlywedol.

, Ehangu fy ngorwelion gyda phrofiad gwaith yng nghŵyl Diffusion, CARDIFF MET BLOG
Sound Vision 2019

Mae jyglo diwedd trydedd flwyddyn gyda’r interniaeth, i ddechrau, wedi bod yn un heriol ond gwerth chweil. Rhoddodd sefydlu’r ŵyl y sgiliau yr oeddwn eu hangen i sefydlu arddangosfa fy hun ar gyfer y sioe radd gyda hyder ac ansawdd uchel. Daeth y sgiliau hyn o adeiladu’r arddangosfeydd (9 i gyd!), gweithio yn agos gyda churaduron fel Sebah Chaudhry, a dysgu am y gwaith a oedd yn cael eu harddangos trwy siarad gyda’r artistiaid.

Hefyd, fy ngwaith i yw arwain teithiau i’r wasg, yn enwedig y rhai Cymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi hybu fy hyder i siarad am fy ngwaith celf, sydd am fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer fy asesiad yn yr wythnosau nesaf ac ar gyfer siarad yn gyhoeddus yn y dyfodol.

, Ehangu fy ngorwelion gyda phrofiad gwaith yng nghŵyl Diffusion, CARDIFF MET BLOG
Un o’r arddangosfeydd Ffotograffiaeth

Bydd y sgiliau yma’n hanfodol ar gyfer fy natblygiad proffesiynol yn y dyfodol, ond mae hefyd yn bwysig cymryd sylw o’r bobl anhygoel dwi wedi cyfarfod; y staff Ffotogallery ac artistiaid a churaduron. Dwi’n bwriadu cadw mewn cysylltiad agos gyda’r mwyafrif ohonynt, ac yn gobeithio gweithio gyda nhw’n fuan.

, Ehangu fy ngorwelion gyda phrofiad gwaith yng nghŵyl Diffusion, CARDIFF MET BLOG
Tîm Diffusion 2019!

Fy ngyngor olaf yw i wneud cais am bopeth y gallwch chi tra byddwch yn y brifysgol gan nad ydych chi byth yn gwybod beth allai ddod allan ohono (gan gynnwys cyflog da!).