Skip to content

Yr hyn dwi wedi ei ddysgu mor belled ar y cwrs TAR Cynradd!

sioned featured
Sioned Eleri Diplock

sioned featured

Helo! Fy enw i yw Sioned a dwi ar hyn o bryd yn fy nyddiau olaf o astudio’r cwrs TAR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Am y tair blynedd cyn dechrau’r cwrs, roeddwn i’n astudio gradd Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Efrog. Mae symud yn ôl i De Cymru ac,  yn enwedig, symud yn ôl i addysg cyfwng Cymraeg wedi bod yn brofiad anhygoel.

Er doedd fy nghwrs israddedig ddim trwy gyfrwng y Gymraeg a ddim yn ymwneud gydag addysg yn uniongyrchol, roedd yna gyfleoedd i mi ddechrau datblygu fel athrawes ochr yn ochr gyda fy astudiaethau. Parheais i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg a gwirfoddolais hefyd o fewn ysgolion lleol yn wythnosol. Roedd ymgeisio am le ar gwrs TAR Met Caerdydd felly yn gam naturiol a dewis gwneud hyn drwy’r Gymraeg yn anochel.

, Yr hyn dwi wedi ei ddysgu mor belled ar y cwrs TAR Cynradd!, CARDIFF MET BLOG
Dwi wedi cael nifer o brofiadau cadarnhaol gyda’r cwrs a fydd yn fy helpu ar ol graddio!

Rydw i eisoes wedi bod yn sicr fy mod eisiau addysgu’r blynyddoedd cynradd ac mae hyn wedi cael ei gadarnhau’n bellach fyth gan y profiadau gwych rwyf wedi cael ar y cwrs eleni. Addysgais y Feithrinfa a’r Nursery yn gyntaf o fewn ysgol ddwyieithog yng Nghaerdydd. Roedd y profiad hollol ddwyieithog yn eithaf unigryw gan gefais fewnwelediad at ddarpariaeth yr iaith Gymraeg yn y ddwy ffrwd. Roedd y profiad o weithio gyda phlant ifancaf yr ysgol mor werthfawr ag roeddwn i wedi sefydlu perthnasoedd cadarnhaol iawn gyda’r dysgwyr.

, Yr hyn dwi wedi ei ddysgu mor belled ar y cwrs TAR Cynradd!, CARDIFF MET BLOG
Cefais i ail brofiad gwahanol yn Sir Gaerffili

Profiad hollol wahanol oedd wedyn symud i flwyddyn tri yn ysgol yng nghymoedd Sir Gaerffili. Er y gwahaniaeth rhwng oedran y plant, roedd y profiad hwn yr un mor werthfawr ac yn siawns i arbrofi gyda dulliau newydd a chyffrous. Roedd yr ail brofiad hwn hefyd yn siawns i weithio o fewn ysgol oedd yn gweithredu yn ôl y cwricwlwm newydd i Gymru.

Cynhaliwyd rhai o’r diwrnodau hyfforddiant o dan arweiniant ysgol yn yr ysgol hon yn ogystal ag ysgolion eraill yng nghlwstwr Caerffili. Credaf fod symud rhwng ysgolion y clwstwr wedi rhoi siawns i ni ystyried safbwyntiau ysgolion gwahanol ac roedd y diwrnodau eu hun yn gyfle i ddatblygu ein hathroniaeth addysgol. Un o’r diwrnodau gorau oedd edrych yn ddwfn i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sut oedd modd gefnogi dysgwyr o fewn ein dosbarthiadau. Rhoddodd bersbectif newydd i mi ac rwyf wedi bod yn ymchwilio i gefnogaeth lles dysgwyr ers hynny.

Yr unig siom sydd wedi dod wrth gwblhau’r cwrs eleni yw, oherwydd digwyddiadau presennol Covid-19, daeth i ben yn sydyn. Rydyn ni wedi parhau i ddysgu o bellter gan ddefnyddio Microsoft Teams ond rydw i sicr yn colli fy amser gyda’r dysgwyr ac addysgu yn y dosbarth yn ddyddiol. 

Er hyn, rydw i wedi llwyddo i dderbyn swydd fel athrawes newydd gymhwyso ar gyfer mis Medi mewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Rwyf yn edrych ymlaen at ddefnyddio popeth yr wyf wedi dysgu eleni wrth addysgu dosbarth fy hun. Mae’n sicr bod yr her fwyaf i ddod ond rydw i’n gyffrous i ddatblygu’n bellach a chefnogi dysgwyr pryd ddaw’r amser iddyn nhw symud yn ôl i’r ysgol.