Skip to content

Fy mhrofiad ar y cwrs Dylunio Ffasiwn- yr hyn dwi wedi ei ddysgu mor belled!

menna evans 850 x 510
menna evans 850 x 510

Helo! Fy enw i yw Menna a dwi’n astudio ar y cwrs Dylunio Ffasiwn ym Met Caerdydd ac ar hyn o bryd dwi yn fy ail mlwyddyn, dwi methu credu pa gyflym mae’r amser yn hedfan!

Yn y flwyddyn gyntaf o fy nghwrs ffasiwn roedd gen i brif gynaliadwyedd lle roeddwn yn mwynhau gweithio gyda llifo naturiol-lliwo ffabric gyda gwastraff bwyd e.e. croen winwn, croen afocado, coffi ac ati. Ers hynny dwi wedi defnyddio’r dechneg yma gyda pob un o fy mhrosiect ac dwi’n awyddus i gadw lliwio naturiol yn fy ngwaith i ddod. 

O’r project cynaliadwyedd dwi’n teimlo fel fy mod wedi ffeindio fy hun fel dylunydd, rwy’n caru’r trywydd mae fy nghwaith ffasiwn yn mynd lawr o fewn y prifysgol ac rydw i’n edrych ymlaen at brosiectau i ddod. Mae fy nghwaith yn naturiol ac unigryw iawn, gan ddefnyddio defnydd ail-law a’r dechneg lliwio naturiol i’w greu, mae ganddo edrychiad organig iawn. 

Roeddwn i’n ddigon ffodus i hefyd wneud cwrs bach lliwio naturiol o fewn y brifysgol, roedd hyn wedi fy nysgu llawer mwy am liwio naturiol ac dwi’n awyddus i gymryd fy sgiliau newydd a’i ddefnyddio o fewn fy ngwaith ffasiwn

Fel rhan o fy nghwrs cefais y cyfle i weithio ar brosiect cyffroes gyda S4C. Hwn oedd y cyfle i fod ar rhaglen newydd sbon o’r enw caru siopa! Mae’r rhaglen yn gystadleuaeth lle roedd gen i £300 i wario mewn siop elusen ac roedd wedyn rhaid i fi addasu’r dillad prynnais ac eu werthu yn yr Undeb Myfyrwyr Caerdydd i’r myfyrwyr.  

, Fy mhrofiad ar y cwrs Dylunio Ffasiwn- yr hyn dwi wedi ei ddysgu mor belled!, CARDIFF MET BLOG
Mae ein tiwtoriaid yn ein cefnogi’n gyson tuag at ddod yn ddylunwyr proffesitnol nid yn unig o fewn ein harfer, ond hefyd yn y ffordd yr rydym yn cyflwyno ein hunain i’r diwydiant.

Roedd y her yn un heriol iwan ond ces i gymaint o hwyl trwy gydol y profiad! Roedd gen i’r cyfle i defnyddio fy arbinigeddau o fewn y prosiect felly wnes i addasu’r dillaid gyda sawl techneg gwahanol, brodwaith llaw, lliwio naturiol ac wnes i hefyd defnyddio’r sgiliau rydw i wedi dysgu yn ffasiwn i addasu rhai o’r dillad a’i troi mewn i rhywbeth cwbwl gwahanol. 

Roeddwn i’n ddigon ffodus i wneud y prosiect hwn gyda un o fy ffrindiau  ffasiwn ar y cwrs.  Cawsom ni amser gret yn ffilmio a dwi wir yn ddiolchgar am y cyfle hollol anhygoel. Gwnewch yn siwr i wylio i ffeindio allan pwy enillodd y her!!!