Skip to content

Fy mhrofiad yn astudio Rheolaeth Marchnata drwy gyfrwng y Gymraeg!

Featured Post
Featured Post

Helo! Fy enw i yw Carys ac eleni graddiais gyda gradd dosbarth cyntaf mewn BA (Anrh) Rheolaeth Marchnata. Cyn dechrau’r brifysgol, roeddwn i’n poeni bydd dim gen i’r cyfle i ysgrifennu ac ymarfer drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Yn ystod diwrnod agored Met Caerdydd tair blynedd yn ôl, cefais i’r cyfle i fynychu sgwrs gyda’r Coleg Cenedlaethol Cymraeg am astudio rhan o fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd. Roeddwn i mor ddiolchgar bod y Coleg Cenedlaethol Cymraeg wedi cysylltu, gan nad oeddwn yn ymwybodol fy mod i’n gallu cael y cyfle gwych i astudio rhan o fy nghwrs Rheolaeth Marchnata yn y Gymraeg.

Yn ystod y tair blynedd yn astudio Rheolaeth Marchnata, roeddwn i’n astudio rhai o fy modiwlau yn Saesneg ac yn Gymraeg. Roedd fy narlithoedd drwy gyfrwng y Gymraeg mewn grŵp bach iawn, tua wyth myfyriwr, mwyafrif y myfyrwyr Cymraeg yn astudio Rheolaeth Busnes, a dim ond dau fyfyriwr rheolaeth marchnata, fi a fy ffrind Nia.

Yn naturiol, wrth ystyried y nifer o bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae yna llai ohonom yn cymharu a’r Saesneg

Ges i’r siawns a’r diwedd y ail i gyflwyno profiad gwaith gyda ‘Go Wales’ ym Met Caerdydd, i helpu gwella fy hyder a chael ‘blas’ o’r byd  gwaith. Wnes i gael profiad mewn marchnata digidol gydag elusen gwirfoddoli ryngwladol ‘UNA Exchange’ yng Nghaerdydd. Yn ystod y profiad gwaith, wnes i helpu ysgrifennu ‘posts’ a’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg oherwydd doedd gan yr elusen  gweithwyr dwyieithog, felly oedd yr elusen yn ddiolchgar oeddwn i yn gallu siarad Cymraeg.

Yn ystod fy mlwyddyn olaf, ges i’r siawns ysgrifennu fy mhrosiect olaf yn yr iaith Gymraeg. Oedd fy mhrosiect olaf cynllun marchnata am elusen gwirfoddoli UNA Exchange, i helpu cynyddu ei gwirfoddolwyr ac ymwybyddiaeth yr elusen. Y manteision ysgrifennu’r prosiect mewn Cymraeg, ges i oruchwylwyr Gymraeg ac oherwydd oeddem ni yn grŵp bach, oedd fy ngoruchwylwyr yn hyblyg i gwrdd i fyny i edrych ar fy ngwaith a helpu mi yn wythnosol.

Manteision astudio Cymraeg

1.            Ymarfer iaith Cymraeg

Trwy astudio yn yr iaith Cymraeg, mae’n helpu chi ymarfer a defnyddio eich Cymraeg, trwy  lafar ac ysgrifenedig fel cyflwyniadau ac asesiadau.

2.            Sefyll allan ar eich CV

Mae gweithwyr yn cael diddordeb mewn gweithwyr sy’n gallu siarad Cymraeg, oherwydd mae’n helpu dangos mae’r cwmni yn ddwyieithog a denu cwsmeriaid siaradwyr Cymraeg. Hefyd, mae cynnydd am staff sy’n gallu cyfathrebu mewn Cymraeg. Gan barhau astudio Cymraeg, mae’n dangos i weithwyr pa mor angerddol ydych chi am yr iaith Gymraeg.

3. Creu a chwrdd ffrindiau

Gan astudio’r eich cwrs yn yr iaith Cymraeg, gallwch chi gwrdd â chreu ffrindiau newydd sy’n siarad Cymraeg. Yn ystod y tair blynedd, wnes i gwrdd â ffrindiau siaradwyr Cymraeg a dal yn cadw cyswllt ar ôl graddio.

4.Cyfleoedd cymdeithasol

Trwy astudio mewn Cymraeg yn y Brif Ysgol, mae’n atal i chi cael cyfleoedd cymdeithasol, mae Cymdeithas Cymraeg yn y Fet, sy’n cynnig digwyddiadau a thripiau i fyfyrwyr Cymraeg.