Skip to content

Fy mhrofiad ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol

, Fy mhrofiad ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol, CARDIFF MET BLOG
, Fy mhrofiad ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol, CARDIFF MET BLOG

Shwmae! Fy enw i yw Dafydd a dwi newydd gwblhau fy ngradd mewn Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (AChAG) gyda gradd dosbarth cyntaf! O gerdded mewn ogofau yng nghanol y Bannau Brycheiniog i hyfforddi plant anabl i ddawnsio, mae’r profiadau yn enbyd! 

, Fy mhrofiad ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol, CARDIFF MET BLOG
Graddio 2019!

Un peth sydd yn wych am fy mhrofiad o raddio ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol yw eich bod yn y darlithoedd gyda’r un criw bob dydd. Eich ‘teulu’ bach personol chi. Er mwyn dathlu’r tair mlynedd, drefnom ni bod y cwrs yn mynd am drip i Benidorm ym mis Mehefin, hoffwn i wybod faint o gyrsiau prifysgol eraill sydd ddigon agos a chyfeillgar i fynd a gwyliau gyda’i gilydd! Cawsom amser bendigedig i goroni’r tair mlynedd fythgofiadwy.

, Fy mhrofiad ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol, CARDIFF MET BLOG
Yn graddio eleni gyda’r criw AChAG am y tro cyntaf!

Un o fy uchafbwyntiau ar y cwrs oedd y cyfle gwych i deithio i’r Wladfa dros Haf 2018 yn hyfforddi amryw o chwaraeon drwy’r Gymraeg i blant.  Cefais y cyfle i gwrdd â chymaint o bobl oedd mor barod i fy helpu 8,000 milltir i ffwrdd o Gymru. Cefais y profiad i fynd i’r Wladfa er mwyn hyfforddi chwaraeon mewn ysgolion cynradd a chymunedau yn ogystal â theithio o gwmpas Patagonia.

, Fy mhrofiad ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol, CARDIFF MET BLOG
Taith bythgofiadwy i’r Wladfa flwyddyn diwethaf!

Ar ôl pwyso a mesur fy opsiynau roedd y cwrs feistr mewn Darlledu Chwaraeon wedi denu fy sylw. Ar ôl sawl sgwrs a chyfarfod gyda Joe (Cyfarwyddwr Rhaglen ar y cwrs ), roedd y radd feistr yn un atyniadol iawn er mwyn cael y profiad a’r wybodaeth rydw i angen i allu wireddu fy mreuddwyd o ddarlledu a sylwebu mewn gemau rygbi. Rwyf wedi cael cynnig ‘diamodol’ ac rwy’n ysu i ddechrau’r cwrs ym mis Medi.

Profiad yn gweithio fel llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dwi hefyd wedi datblygu rhinweddau personol wrth gynrychioli’r brifysgol fel llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bod yn swyddog iaith Gymraeg yn y brifysgol.

Dwi wedi cael profiad unigryw a fy nghyngor i unrhyw ddarpar fyfyrwyr sydd a diddordeb i astudio ym Mhrifysgol Met Caerdydd yw manteisio ar y cymorth sydd ar gael, rhwydweithio ac  i fanteisio ar bob cyfle sy’n eich cwmpasu! Bydd eich amser yn y brifysgol siŵr o hedfan! Mae’r 3 mlynedd diwethaf wedi hedfan, ac mae wedi bod yn bleser astudio ym Met Caerdydd. Dwi’n edrych ymlaen at y bennod nesaf gyda’r cwrs Darlledu Chwaraeon ym mis Medi!