Skip to content

Fy mhrofiad anhygoel yn yr India gyda fy nghwrs Gwyddorau Bwyd a Thechnoleg

Cadi Feature
Cadi Feature

Helo! Fy enw i yw Cadi a dwi’n fyfyriwr ail flwyddyn yn astudio Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd. Yn ddiweddar cefais y cyfle i fynd i Brifysgol ‘Lovely Professional’ yn yr India gyda fy nghwrs. Er mai dim ond deuddeg ohonom ni roeddwn yn ddigon ffodus i gael mynd ar y daith. Roedd cymysgedd o fyfyrwyr ar y cwrs Iechyd yr Amgylchedd, Maeth a Gwyddorau Bwyd a Thechnoleg.

Roedd campws y brifysgol yn enfawr gyda darpariaeth eang yno. Cefais y cyfle i gael darlithoedd oedd ynghlwm gyda’n hastudiaethau yng Nghaerdydd oedd yn ehangu dealltwriaeth o fy astudiaethau. Tra ar y campws roedd gwersi dawnsio ac yoga wedi eu trefnu ar ein cyfer.

Er fy mod wedi gwneud yoga bob bore allai ddim deud mod i lawer mwy hyblyg erbyn diwedd y pythefnos! Cefais gyfle hefyd i ddysgu sut i goginio bwydydd o’r ardal gan rai o gogyddion y Brifysgol. Roedd gweld faint o Tsilis oedd yn cael eu hychwanegu yn codi braw – ond roedd y bwyd yn hyfryd!

Y pryd gorau i mi gael dysgu sut i’w goginio o bell ffordd ydy’r cyri Paneer. Er i mi gael yr holl ryseitiau i ddod adre hefo mi dydw i ddim cweit wedi stumogi plwc i goginio cyri ar ôl i’w gael am dair gwaith y diwrnod am bythefnos!

, Fy mhrofiad anhygoel yn yr India gyda fy nghwrs Gwyddorau Bwyd a Thechnoleg, CARDIFF MET BLOG
Bwyd blasus yn yr India!

Fel myfyriwr bwyd roedd ymweld a ffactri Coca-Cola yn uchafbwynt. Roedd y prosesau oedd yn cael ei ddefnyddio er mwyn creu y cynnyrch yn hynod o ddidorol ac yn fwy cymleth na’r disgwyl. Fel rêl myfyriwr bwyd roedd gweld sut roedd y ffactri yn rhedeg a’r arbrofion safon yn andros o ddiddorol!

, Fy mhrofiad anhygoel yn yr India gyda fy nghwrs Gwyddorau Bwyd a Thechnoleg, CARDIFF MET BLOG
Un o’r uchafbwyntiau oedd ymweld â’r ffactri Coca- Cola

Tra yna cawsom gyfle hefyd i gael mentro tu allan i waliau’r Brifysgol. Roedd yn gyfle gwych er mwyn gallu profi diwylliant gwahanol i’r hyn rwyf wedi arfer gydag adref. Roedd ymweliad a dinasoedd fel Amristar yn andros o brofiad, yn enwedig gweld prysurdeb a bwrlwm y wlad. Er mor ddiddorol oedd y daith roedd hefyd wedi amlygu’r tlodi mawr oedd yno hefyd.

, Fy mhrofiad anhygoel yn yr India gyda fy nghwrs Gwyddorau Bwyd a Thechnoleg, CARDIFF MET BLOG
Cawsom groeso mawr gan bawb yn yr India

Un o uchafbwyntiau i mi oedd ymweld â ffin India a Pakistan. Bob dydd mae seremoni anferth gyda channoedd o bobl er mwyn cadw heddwch rhwng y ddwy wlad.

, Fy mhrofiad anhygoel yn yr India gyda fy nghwrs Gwyddorau Bwyd a Thechnoleg, CARDIFF MET BLOG
Profi diwylliant gwahanol yn yr India

Mae cenedlaetholdeb y ddwy wlad yn amlwg wrth iddynt ddawnsio, gweiddi a chanu i gefnogi eu gwledydd. Tra’n Amristar cawsom hefyd gyfle i ymweld ar Deml Aur, lle sanctaidd ar gyfer unigolion sydd yn dilyn y grefydd Sikh. Roedd prydferthwch y deml yn anhygoel ac yn werth ei weld.

Roedd croeso a chyfeillgarwch pobl India yn gwneud i ti deimlo yn gartrefol a chyfforddus ac roedd digon o hwyl i gael yng nghanol y criw o’r Met. Roedd y daith i’r India yn un i’w chofio a nes i lwyr fwynhau’r profiad.