Skip to content

Manteision astudio yn y Gymraeg gyda fy nghwrs Astudiaethau Addysg Gynradd

Featured Image
Featured Image

Helo! Fy enw i yw Harriet a dwi newydd raddio o’r cwrs Astudiaethau Addysg Gynradd gyda gradd dosbarth cyntaf ac ar fin dechrau cwrs TAR Addysg Gynradd ym mis Medi. Er fy mod wedi dewis i neud fy ngradd mewn Astudiaethau Addysg Gynradd munud olaf, dwi mor falch o’m mhenderfyniad gan fy mod i wedi cael y tair blynedd gorau erioed. 

, Manteision astudio yn y Gymraeg gyda fy nghwrs Astudiaethau Addysg Gynradd, CARDIFF MET BLOG

Sbardunodd y cwrs yma fy nghariad tuag at addysgu’r genhedlaeth nesaf . O’r ddarlith gyntaf, roedd yn amlwg bod y darlithwyr yn angerddol am y pynciau yr oeddemt yn ei ddysgu ac fe wnaeth hynny fy ysbrydoli’n fawr.  

Trwy gydol y cwrs, cefais gyfle i archwilio pob agwedd o addysg gynradd, dadansoddi’r cwricwlwm Cymraeg newydd i ddysgu am ymwybyddiaeth ‘mindfulness’. Un foment sy’n sefyll allan i mi yw dysgu gwers yn yr ystafell ddosbarth sydd tu allan yn y goedwig i ddosbarth o ysgol gynradd leol. 

, Manteision astudio yn y Gymraeg gyda fy nghwrs Astudiaethau Addysg Gynradd, CARDIFF MET BLOG

Yn bersonol, un o brif buddion y cwrs oedd gallu astudio rhan ohono trwy’r Gymraeg. Roedd hyn yn bwysig gan fod hyn yn golygu y gallwn gwblhau aseiniadau yn Gymraeg, ac roeddwn yn teimlo’n fwy cyfforddus yn gwneud hyn gan fy mod wedi bod yn ysgrifennu’n Gymraeg drwy gydol fy amser yn yr ysgol.

Fodd bynnag, roedd nifer o fuddion eraill i astudio trwy’r Gymraeg. Gan bod ein bod yn grŵp llawer llai na’r grŵp Saesneg, roedd hyn yn caniatáu trafodaethau manylach gyda’ch tiwtoriaid a’ch cyfoedion, gan roi’r cyfle iddynt ddarparu adborth a chyngor mwy personol. Rwyf hefyd wedi gwneud ffrindiau am oes trwy astudio yn Gymraeg, roeddem wastad yn rhoi cymorth i’n gilydd yn y group chats!  

Mae’n rhaid i fi bwysleisio does dim rhaid i chi gael iaith berffaith er mwyn astudio yn y Gymraeg, pryd dechreuais i’r cwrs, o’n i ddim wir yn hyderus gyda fy sgiliau Cymraeg ond gwnaeth y tiwtoriaid rhoi digonedd o gymorth i mi a nawr dwi’n hollol gyfforddus wrth gyfathrebu yn yr iaith! Hefyd, mae gennych yr opsiwn i gyflwyno asesiadau yn y Gymraeg neu Saesneg – beth bynnag sy’n well i chi!  

Hefyd, mae’n bwysig nodi nid yw pob aseiniad yn cynnwys traethodau hir, diflas. Fe wnaethon ni ysgrifennu blogs, creu posteri a gwneud cyflwyniadau fel grŵp ac yn unigol. Gwnaeth hyn y broses asesu yn fwy cyffrous gan nad oedd e byth yr un peth.

Nid wyf yn credu y byddwn i hanner mor barod ar gyfer y cwrs TAR oni bai am y cwrs hwn, yn enwedig oherwydd i mi astudio trwy’r Gymraeg. Mae wedi caniatáu imi fod yn hollol cyfarwydd efo’r cwricwlwm yng Ngymru, archwilio pob agwedd o addysg a phenderfynu beth yw fy athroniaethau addysgol cynradd. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y tiwtoriaid cyfrwng Cymraeg yn sicrhau bod pob myfyriwr yn deall y gwaith, yn cyflawni ei raddau gorau ac yn hapus!  

Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried astudio trwy’r Gymraeg yw ewch amdani! Dwi’n addo na fyddwch chi’n difaru.