Skip to content

Fy mhrofiad yn astudio’n ddwyieithog ym Met Caerdydd

Caitlin
Caitlin Turner
Myfyriwr graddedig BA Tecstilau

Caitlin

English
 
Wedi bod yn addysg Gymraeg dros y tair a ddeg mlynedd ola’ o fy mywyd, oedd y syniad o newid i’r Saesneg am uni ‘di ‘neud i mi’n droi’r nervous wreck! Gyda chymaint o feddyliau yn rhedeg trwy fy meddwl; sut y byddaf yn ymdopi â darlithoedd yn Saesneg? A fydda i’n dal i allu deall y gwaith? Fyddwn i’n colli fy Nghymraeg? Aeth fy meddwl i mewn i overdrive! Fodd bynnag, ar ôl cwblhau fy ngradd, gallaf nawr ddweud, ie, yr oeddwn i’n poeni am ddim! Os allai fynd yn ôl, a dweud wrthyf fy mod yn bod yn wirion, s’dim byd i boeni am, yn enwedig, colli fy Nghymru a’n dau, yn methu deall y darlithoedd!
 
Yn ystod yr wythnos gyntaf, oeddwn i ac ychydig o’r myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf gyfarfod â’r tiwtor Cymraeg ar gyfer yr Ysgol Gelf. Ynghyd â chymorth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cawsom gymaint o gyfleoedd i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg; boed yn sesiynau tiwtorial, prosiectau amlddisgyblaeth gyda myfyrwyr eraill neu gael y cyfle i arddangos gwaith mewn amrywiaeth o arddangosfeydd.
 

Brecon

Mae tirlun Cymru wedi bod yn ddylnwad mawr ar fy ngwaith.


 
Yn ddiweddar, cawsom y cyfle i arddangos ystod o fy ngwaith ffotograffiaeth yn yr arddangosfa, “Golwg ar Gelf”. Arddangosfa a gefnogir gan y Coleg Cymraeg i fyfyrwyr sy’n astudio’n rhannol neu’n llawn yn Gymraeg. I mi, roedd hwn yn ffordd wych o gwrdd â myfyriwr celf arall o nid yn unig Met Caerdydd ond ysgolion celf eraill yng Nghymru.
 
Mae fy iaith Gymraeg yn fy niffinio, as cliché ag y gallai fod yn swnio! Mae wedi ysbrydoli’r rhan fwyaf o’m prosiectau trwy gydol uni ac rwyf bob amser yn ymdrechu i’m gwaith i gysylltu â Chymru a chael thema gref Gymreig yn rhedeg trwy’r cyfan. Yn enwedig yn y gymdeithas heddiw, rwy’n teimlo ei bod mor bwysig i’r iaith hanesyddol hon gael ei siarad â’i ddefnyddio gymaint ag y posib. Ysbrydolwyd fy mhrosiect gorffenedig gan fy nghariad am y tirluniau hanesyddol Cymreig a hefyd fy angerdd i’r iaith Gymraeg. Wedi’i enwi, ‘Hiraeth’, archwiliais dirweddau hanesyddol y Bannau Brycheiniog trwy gyfres o farciau geometrig a phatrymau wedi’u gwneud â llaw.
 
Drwy gael y cyfle i barhau i ddefnyddio fy Nghymraeg yn uni, bu’n fuddiol iawn i mi ac mae hefyd wedi rhoi’r cyfle i gymryd rhan mewn cyfleoedd cyffrous iawn dros y tair blynedd ddiwetha’!