Skip to content

Fy rôl fel Swyddog y Gymraeg yn y brifysgol

Sara Patterson Feature Image
Sara Patterson Feature Image

Mewn pedwar gair disgrifia dy brofiad o fod yn Swyddog yr Iaith Gymraeg mor belled. 

Heriol, Hwylus, Ffodus a Gwerthfawrogol. 

Beth yn union wyt ti’n gwneud fel Swyddog yr Iaith Gymraeg? 

Fi yw ‘point of call’ y myfyrwyr am unrhyw broblemau ynglŷn ag astudio/byw drwy siarad Cymraeg. Weithiau, byddai myfyrwyr yn teimlo’n fwy cysurus i siarad gyda rhywun sydd o gwmpas yr un oed a nhw, yn hytrach na darlithiwr – felly dyma un o fy rolau i. Rydw i’n ceisio hybu’r Gymraeg ar unrhyw adeg posib, gan sicrhau nad yw’n myfyrwyr Cymraeg yn colli allan ar unrhyw ddigwyddiad a chyfleoedd. Ar y cyd, rwy’n Gadeirydd Gym Gym Met Caerdydd ble rwyf yn ar bwyllgor sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr y brifysgol – sy’n help mawr i ddod i gymysgu gyda phobl newydd. 

Beth yw rhai o dy uchafbwyntiau mor belled? 

Yn sicr cwrdd â myfyrwyr newydd yn y brifysgol, boed ar gampws Cyncoed neu Llandaff. Roedd Ffair y Glas yn gyfle gwych i wneud hyn, gan hysbysebu stondin Gymdeithas Gymraeg Met Caerdydd. Heb y gallu i gyfuno’r ddau gampws a chynnal digwyddiadau i’n holl fyfyrwyr, nid oes cyfle ar gael i bawb gymdeithasu a dod i adnabod ei gilydd. Ers dechrau’r swydd rwyf wedi cwrdd â myfyrwyr o’r tair blwyddyn addysgu, o’r ysgol Addysg, Chwaraeon a Rheoli.  

Rwy’n mwynhau gweithio dan faner yr Undeb Myfyrwyr. Mae’n griw bach gweithgar a gall bob tro cyfri arnynt i helpu pe bydd angen. Mae gan bob un ohonom ardal cryf a sgiliau i gynnig ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau, felly rydym yn cyd-weithio er mwyn cynnal a chreu enw da i’n Hundeb Myfyrwyr. 

Beth wyt ti wedi elwa o fod yn Swyddog yr Iaith Gymraeg? 

Fel soniais uchod, mae’r gallu i weithio fel tîm yr Undeb Myfyrwyr yn fraint fawr, ac mae’n fy ngalluogi i ehangu fy sgiliau ymhellach. Prosiect rwy’n trefnu ar hyn o bryd yw Cinio’r Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg, a fydd yn cael ei chynnal ar y 5ed o Ragfyr. Gan fod y cinio’n agored eleni (ond AChAG cafodd y cyfle llynedd) i bob ysgol o fewn y brifysgol, rwy’n canolbwyntio ar gael cynrychiolwyr o wahanol gyrsiau i fynychu. Ar hyn o bryd mae’r ymgyrch yn mynd yn dda, gyda myfyrwyr o’r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, Addysg a Rheoli wedi talu, yn ogystal ag ambell ddarlithiwr a staff y ddarpariaeth Gymraeg. Gobeithiaf bydd y digwyddiad yma’n llwyddiannus, gan olygu gall y cinio ddigwydd yn flynyddol o eleni ymlaen – stay tuned! 

Ydy hi’n gallu fod yn anodd i jyglo dy rol fel Swyddog yr Iaith Gymraeg, astudiaethau a chwarae i dim hoci y brifysgol? 

Ydy, mae’n gallu fod yn anodd ar adegau, yn enwedig ar hyn o bryd gan fod y llwyth gwaith wedi cynyddu tuag at ddiwedd y tymor. Serch hyn, rwy’n berson trefnus ac mae digonedd o gymorth gen i ym mhob agwedd er mwyn sicrhau bod fy safonau yn parhau i fod yn uchel. Dwi’n mwynhau byw bywyd prysur!