Beca Lyne Pirkis

Ma’r diwrnod cyntaf pryd chi’n cychwyn yn y brifysgol yn gymysgedd o fod yn gyffroes a bod yn nerfus. Cwrdd â ffrindiau newydd, mewn lleoliad newydd yn aml i ffwrdd o adref ac yr holl boeni am “ydw i wedi gwneud y penderfyniad cywir gyda’r cwrs yma?”.

Fel myfyrwraig aeddfed oni’n gwybod beth i ddisgwyl hyd at pwynt, gan taw nid hwn oedd y tro cyntaf i mi fynd i brifysgol – ond oedd hwna o gwmpas(!) 14 mlynedd yn ôl, pryd oedd bywyd lot fwy syml!

Fel mam i ddwy ferch ifanc, gwraig i rhywun yn y fyddin ac hefyd rhywun oedd yn gweithio llawn amser – oedd mynd nôl i brifysgol wir yn syniad da?  Mi oedd gwenud y penderfyniad ddim wedi bod yn hawdd – ac un oni wedi bod yn pwyso a mesur am oleuaf 2 flynedd ar ôl i mi fynd ar cwrs maeth yn Llundain. 

Fel rhywun sy’n gweithio yn y diwydiant bwyd yn dysgu, ysgrifennu a cyflwyno yn y cyfryngau – dwi aml yn cael fy ngofyn fy marn ar testunau bwyd sydd yn ymddangos yn y papurau ac y newyddion. 

Dwi wastad wedi cael diddordeb enfawr mewn sut ma bwyd gallu rhoi egni i chi er mwyn gwneud gwahanol fathau o ymarfer corff, ac hefyd sut ma bwyd yn rhoi cysur i chi os chi’n isel neu’n sâl; dyma beth naeth gwnud i mi feddwl mwy am astudio ymhellach yn y pwnc er mwyn deall mwy, ond hefyd er mwyn ehangu ar y gwaith dwi’n gweud yn barod.

Dwi’n cofio teimlo mor sâl yn mynd i’r cyfweliad am y cwrs BSc Human Nutrition & Dietetics; oni lot hynach na pawb ac oni’n teimlo bo fi wedi gwisgo lot rhy smart ac bod pawb yn chwerthin arno fi ac siwr o fod yn meddwl “pwy yw hi’n meddwl yw hi a beth ma hi’n gwiso?!”.  Oni mor hapus pan ges i’r ebost i ddweud fy mod i wedi cael lle ar y cwrs ac mor gyffroes i gychwyn y cwrs er mwyn gallu pwshio mlaen gyda fy ngyrfa. 

Odd diwrnod cyntaf y cwrs yn un dryslud iawn, gyda lot o wynebau nerfus newydd yn yr ystafell i gyd siwr o fod yn meddwl yr un peth.  Yn ffodus iawn i mi, fe wnes i ffeindio grwp o ferched tua’r un oedran a fi, oedd hefyd yn mamau – felly naethon ni sticio gyda’n gilydd trwy’r wythnosau cyntaf yna! 

Os dwi’n onest – oni wir ddim moyn gwneud y cwrs Sylfaen – oni jyst moyn mynd syth mlaen i’r gradd, ond dwi mor falch nawr fy mod i wedi gwneud e a dwi wir wedi synu faint dwi wedi dysgu a deall dros y blwyddyn yma. 

Fel rhywun sydd gyda gradd mewn cerddoriaeth ac ôl-radd yn y celfyddydau, oedd cael y blwyddyn yma i ddod i ddeall a cofio sut ma gweithio mewn gwyddoniaeth wedi bod yn allweddol i mi gadarnhau taw gwneud y cwrs yma ac y dewis o fynd nôl i astudio oedd y penderfyniad cywir.

Os chi’n barod i rhoi’r gwaith mewn a trefnnu popeth o gwmpas bywyd arferol, fel gwiethio’n hwyr yn y nôs ac yn anffodus ddim mynd mas i yfed yn yr undeb gyda’r myfyrwyr ifanc yna fe fyddwch chi gallu mynd mewn i’r blynyddoedd nesaf yn astudio eich pwnc gyda’r hyder eich bod chi gallu gwneud y gwaith ac eich bod chi’n deall lefel o ymroddiad sydd angen er mwyn rhagori yn eich pwnc.

Fel rhywun oedd wedi mynd i ysgolion cymraeg ac sy’n aml yn gweithio trwy gyfrwng yr iaith gymraeg; mi oeddwn i’n poeni y byddwn i falle ddim yn deall rhai o’r geirfa – ond wrth mynd dros nodiadau a darllen trwy llyfrau a gofyn cwestiynnau, fe wnes i ddod i ddeall a bellach ddim poeni o gwbwl.  Os unrhywbeth, dwi efo’r mantais o wybod yr holl gwybodaeth dwi’n dysgu mewn dwy iaith fydd dim ond yn cynnig mwy o fy sgiliau pan fyddai’n dod i raddio a chwilio am swydd. 

Gyda’r blwyddyn Sylfaen wedi dod i ben ac y disgwyl am y canlyniadau ar fy meddwl pob dydd, dwi ddim yn difaru un eiliad o fynd nôl i astudio ac yn gyffroes nawr ar gyfer fy ngyrfa ar ôl graddio a gweddill fy mywyd diolch i Met Caerdydd.