Skip to content

Pam dwi wrth fy modd yn astudio chwaraeon ac AG trwy gyfrwng y Gymraeg

, Pam dwi wrth fy modd yn astudio chwaraeon ac AG trwy gyfrwng y Gymraeg, CARDIFF MET BLOG
, Pam dwi wrth fy modd yn astudio chwaraeon ac AG trwy gyfrwng y Gymraeg, CARDIFF MET BLOG

Pan gyhoeddwyd bod cwrs Chwaraeon drwy’r Gymraeg ar fin dechrau ym mhrifysgol Metropolitan Caerdydd pan roeddwn i yn y chweched, roeddwn i wrth fy modd. Roeddwn yn ymwybodol am y cyfleusterau gwych ar gampws Cyncoed o ymweld â’r lle yn flaenorol. Roedd hyn yn golygu nad oedd angen i mi fynd dros y bont i Loegr i astudio chwaraeon i safon uchel.

Ers astudio’r cwrs am flwyddyn gyfan, rhaid cyfaddef nad oeddwn i’n disgwyl iddo fo fod mor dda – mae’n wych! Dwi wedi argymell y cwrs i gymaint o bobl a’r gobaith yw bydd hyn yn galluogi siaradwyr Cymraeg allu addysgu chwaraeon yn yr ysgol gynradd hyd at ei bod nhw’n astudio gradd yn y Brifysgol.

, Pam dwi wrth fy modd yn astudio chwaraeon ac AG trwy gyfrwng y Gymraeg, CARDIFF MET BLOG

Mae bod yn rhan o grŵp bach yn golygu bod pawb yn dod i nabod ein gilydd yn dda.

Dwi wedi cael amryw o brofiadau bythgofiadwy ers mis Medi. Dwi wedi treulio 2 noson yn y Bannau Brycheiniog yn gwersylla ac yn gwneud tasgau awyr agored megis dringo mynyddoedd a rasio rafftiau. Nid yn unig hynny ond drwy gydol y flwyddyn academaidd dwi wedi cael blas ar bob math o gampau fel dawns, badminton, athletau, hoci, cyfeiriannu a rygbi, fy nghamp arbenigol. Cynigodd y Brifysgol i mi wneud y cwrs i allu hyfforddi rygbi i safon Lefel 1. Mae hyn i gyd wedi bo drwy’r Gymraeg ac nid oes modd gwneud hyn yn unman arall.

Un peth manteisiol iawn i astudio’r cwrs drwy’r Gymraeg yw’r sylw rydym fel unigolion ar y cwrs yn ei dderbyn gan y Darlithwyr. Mae 17 ohonom ni’n astudio’r cwrs ac rydym y n cael ein hannog i ofyn cwestiynau a thrafod materion gan y Darlithwyr i grisialu a chyfoethogi ein gwybodaeth am bynciau llosg eang o fewn y byd chwaraeon. Nid yw’r cwrs Saesneg cyfatebol yn cael hyn, maent mewn neuaddau enfawr gyda 300 o fyfyrwyr eraill yn gwrando ar 1 llais am awr. Dwi’n gwybod pa un fyswn i’n dewis. Yn sicr, mae amgylchedd dysgu’r cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol heb ei ail.