Skip to content

Pam penderfynu astudio’n ddwyieithog gydag Addysg Gynnar ac Ymarfer proffesiynol

Featured Image Megan Pembery
Featured Image Megan Pembery

Helo! Fy enw i yw Megan Pembery a dwi yn fy nhrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn astudio BA        (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol (SYBC) Dwyieithog. Cyn astudio yn y Brifysgol roeddwn yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn cwblhau fy lefelau A drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Doeddwn i ddim yn siwr beth roeddwn i eisiau astudio yn y brifysgol ar y pryd ond roeddwn i’n sicr fy mod eisiau parhau gyda fy addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar ôl archwilio ar UCAS ar gyfer y cyrsiau gwahanol oedd ar gael, des i ar draws y cwrs Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol felly es i ddiwrnod agored i ddarganfod mwy o wybodaeth am y cwrs. 

Yn fy mlwyddyn gyntaf o brifysgol roeddwn i’n byw ar gampws Cyncoed, penderfynnais wneud hyn er mwyn i mi deimlo fel fy mod yn cael profiad llawn o fynd i’r brifysgol. Penderfynais fy mod i’n mynd i symud i fyw ar gampws ar ddiwrnod agored ar gyfer y cwrs. Cefais daith o’r campws a’r mathau gwahanol o lety oedd ar gael.  Mae byw ar gampws yn beth wych oherwydd roeddwn i mor agos i’r darlithoedd a seminarau.   

Mae’r cwrs Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol yn berffaith i mi, gyda modiwlau sydd yn amrywio dros y tair blynedd, mae’r cwrs yn cynnig rhywbeth i bawb. Yn ogystal, fy hoff beth am y cwrs yw’r ffaith fod yna 700 o oriau ar leoliad mewn ysgol neu feithrinfa sy’n rhoi profiad gwych ar hyd y cwrs.

Yn fy mlwyddyn gyntaf roeddwn i ar leoliad yn ysgol gynradd gyda dosbarth derbyn. Mae cael yr holl brofiad ar leoliad yn wych i mi oherwydd ar ôl cwblhau’r cwrs byddaf yn parhau ar gwrs TAR ym Met Caerdydd er mwyn bod yn athrawes gynradd ar ôl graddio. Dwi ar fin ymgeisio ar gyfer y cwrs TAR a dwi wedi dewis astudio’r cwrs TAR yn Gymraeg. 

Rwy’n annog pawb i astudio’r cwrs yn ddwyieithog, dwi wedi cael profiad arbennig o dda a dwi hefyd yn teimlo bod dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi rhoi cymaint o hyder i mi.