hana

Helo! Hana Palterman ydw i, ‘rwyf newydd raddio ar ôl cwblhau cwrs Therapi Iaith a Lleferydd, a ‘rŵan yn edrych ymlaen at gofrestru ac ymarfer yn broffesiynol fel therapydd dwyieithog o fewn y GIG.

Mae’r blog hyn yn sôn ychydig am fy mhrofiad o astudio Therapi Iaith a Lleferydd, beth dwi wedi ei ddysgu ar y cwrs a phwysigrwydd gallu siarad Cymraeg yn y proffesiwn.

Beth yn union yw Therapi Iaith a Lleferydd?

Pan byddai rhai yn gofyn i mi be oeddwn i yn ei wneud yn y brifysgol? eu hymateb  yn aml byddai:

‘O ia dysgu pobl sut i siarad!’

Graddio 2019 gyda’r criw Therapi Iaith a Lleferydd!

O na! mae gyrfa fel therapydd iaith a lleferydd yn sicr yn fwy na beth mae pobl yn  tybio, ac yn gymaint mwy nag dim ond dysgu pobl sut i siarad!

Mae’r therapyddion yn darparu triniaeth a chefnogaeth i amrywiaeth eang o gleifion sy’n cynnwys babanod bach sydd ag anawsterau iaith a chyfathrebu yn ogystal ag oedolion sydd wedi cael strôc neu yn dioddef â phroblemau llwnc. Yn nodweddiadol, rôl y therapydd yw asesu, darparu therapi a chydweithio â’r cleifion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn cefnogi’r cleifion i gyrraedd eu potensial.

Yn flaenorol, cyn i mi ddechrau fy nhaith ar y cwrs ym Mhrifysgol Met Caerdydd derbyniais fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Oherwydd hyn, ar ôl i mi ddechrau yn y brifysgol roeddwn yn awyddus i gymryd mantais o’r cyfleoedd i ymarfer trwy’r Gymraeg. Fel yr unig brifysgol yng Nghymru sydd yn darparu’r cwrs, roedd yn braf gallu defnyddio’r Gymraeg. Bu’r cyfleoedd hyn yn cynnwys darlithoedd, sesiynau tiwtorial, lleoliadau ac yn fwy diweddar y sialens fawr o gwblhau fy nhraethawd hir!!

Yn ystod fy amser yn y brifysgol cefais nifer o gyfleoedd i rhoi fy nysgu ar waith yn ystod lleoliadau gan gynnwys gweithio mewn ysbytai, ysgolion a chlinigau ar hyd a lled y wlad. Yn fy marn i mae bod yn ddwyieithog wedi bod yn fanteisiol yn ystod y cwrs nid yn unig er lles fy hun ond hefyd wrth drin a thrafod cleifion. Roedd y gallu i gyfarthrebu a chynnig gofal trwy cyfrwng Cymraeg yn fantais i’r cleifion oedd ei angen.

‘Rwyf bellach yn edrych ymlaen i ymlid fy nghyrfa yn ardal Caerdydd, i ddarparu a chynnig gofal a chefnogaeth i gleifion trwy gyfrwng Cymraeg!