Skip to content

Sut mae astudio Therapi Iaith a Lleferydd wedi fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith

Elen Jones Featured
Elen Jones Featured

Helo! Fy enw i yw Elen Jones a ‘dwi newydd orffen astudio’r cwrs Therapi Iaith a Lleferydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Penderfynais fy mod eisiau astudio yng Nghaerdydd gan fy mod yn awyddus i ddefnyddio fy sgilie’ Cymraeg. Dwi’n wreiddiol o Sir Drefaldwyn, felly roedd symud o gefn gwlad i’r brif ddinas yn newid mawr. Er hyn, dwi wedi mwynhau pob eiliad o fyw ac astudio yng Nghaerdydd!

Tra’n astudio i fod yn Therapydd Iaith a Lleferydd rwyf wedi cael nifer eang o brofiadau anhygoel. Dwi wedi gweithio gyda plant â anhawsterau dysgu, awtistiaeth, problemau iaith, lleferydd a chyfathrebu. Yn ogystal â phlant, dwi hefyd wedi gweithio efo oedolion mewn ysbytai a chlinigau. Roedd gan yr oedolion yma problemau llais, cyfathrebu neu llyncu, o ganlyniad i strôc, cancr, dementia neu parkinsons.

Rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd i ddefnyddio fy Nghymraeg tra yn y brifysgol mewn darlithoedd, trafodaethau grŵp efo disgyblion eraill neu efo fy nhiwtor personol. Yn ogystal  â hyn, dwi hefyd wedi bod yn ffodus iawn o allu defnyddio fy Nghymraeg tra allan ar leoliad gwaith. Cefais leoliadau gwaith ar draws Cymru gyfan, o’r de a’r Canolbarth i’r Gogledd! Yn ystod fy nhrydedd flwyddyn es i ar leoliad bloc am chwe’ wythnos i Ogledd Cymru. Profiad anhygoel nai fyth anghofio!

Dwi wedi cymryd mantais o bob cyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg tra allan ar leoliad gwaith. O ganlyniad, rwyf wedi dod i werthfawrogi pa mor bwysig yw hi i allu cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yma yng Nghymru. Mae’r sgiliau i gyd dwi wedi datblygu yn ystod y pedair mlynedd diwethaf wedi galluogi i mi sicrhau fy swydd cyntaf fel Therapydd Iaith a Lleferydd yn gweithio mewn tîm ysgolion yma yng Nghymru. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i ddechre fy ngyrfa!

Dwi wedi mwynhau pob cyfle tra’n astudio a byw yng Nghaerdydd. Mae gennai ffrindie ac atgofion am oes. Mae’r campws, staff y brifysgol, a’r darlithwyr Therapi Iaith a Lleferydd wedi galluogi i mi gael profiad fythgofiadwy tra’n y brifysgol, a fedrai ddim diolch digon iddynt.

Pob lwc i chi gyd!