Newid. Yn ôl Aristotle, gellir diffinio newid fel “gwireddu’r hyn a allai fod, potensial, fel y cyfryw”.
Tair blynedd yn ôl, “newidiodd” fy mywyd. Cefais y cyfle i wneud doethuriaeth mewn seiberddiogelwch wedi’i chyllido’n llawn trwy brosiect Llywodraeth Cymru, trwy fenter y Gronfa Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS2), a gefnogir gan ein busnes, Aytel Systems Ltd.
Tair blynedd yn ôl, “newidiodd” fy mywyd. Cefais y cyfle i wneud doethuriaeth mewn seiberddiogelwch wedi’i chyllido’n llawn trwy brosiect Llywodraeth Cymru, trwy fenter y Gronfa Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS2), a gefnogir gan ein busnes, Aytel Systems Ltd.
Profais “gydnabyddiaeth o newid” trwy fod yn rhiant sengl a symud yn ôl i Gymru i ailadeiladu fy hyder gyda chymorth fy nheulu a ffrindiau agos. Wedyn, cymerodd “newid gwallgof” yr awenau pan benderfynais wneud gradd arall, y tro yma mewn Cyfrifyddu, ac wedyn “newid mwy gwallgof fyth” wrth i fi astudio gradd Meistr mewn TG a Chyllid ym Mhrifysgol Met Caerdydd, a hynny mewn ysgol nos. Roedd cwrdd â phobl newydd, mentro i ddinasoedd newydd a gwylio fy mab yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd wedi rhoi’r gwersi bywyd gorau i mi.
Digwyddodd “newid hapus a sefydlog” pan briodais am yr eildro mewn i deulu hapus, cwrdd â fy ngŵr a datblygu gyrfa liwgar yr ydwyf yn falch ohoni. Cyflwynwyd y cyfle a’r profiad o redeg busnes i mi hefyd, a chefais gyfle i atgyfnerthu fy sgiliau er mwyn creu fersiwn well ohonof fy hun. Po fwyaf y cofleidiais “newid”, y mwyaf y caniataodd i mi adeiladu bywyd cryfach o’m cwmpas.
Heb os, roedd fy noethuriaeth yn “newid cyffrous a nerfus”, ond roeddwn yn gwybod y byddai fy mywyd, unwaith eto, yn newid mewn ffordd gadarnhaol trwy’r broses hon. Roedd y prosiect yn cydweddu’n berffaith â gweledigaeth Diwydiant Cymru 4.0, sef menter ar gyfer Cymru 4.0 mewn ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n codi o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol o ran materion cysylltiedig â seiberddiogelwch. Cafodd y gwaith ymchwil effaith uniongyrchol ar ein busnes, fel cwmni TG ac Isadeiledd sy’n delio â’r heriau a’r newidiadau cyflym ym maes seiberddiogelwch a bygythiadau. O ganlyniad, dechreuodd y daith ar ymyriadau seiberddiogelwch a’u heffaith ar fusnesau eraill yng Nghymru.
Mae’r prosiect wedi rhoi cymhelliant i mi ddatblygu fy ngwybodaeth. Mae fy rhyngweithiadau â phobl a phrosesau wedi rhoi mantais i mi o ran fy hyder a fy nealltwriaeth o’r pwnc. Rwyf wedi profi i mi fy hun, er y gall deimlo fel blynyddoedd, pan fydd “newid” yn cael ei wireddu o’r diwedd, gall unwaith eto gymryd ffurf wahanol a’ch gwthio ymlaen. Mae gorffen fy noethuriaeth yn brawf fy mod wedi “gwireddu” fy nyfodol fy hun ac, o’r diwedd, gallaf ddweud bod y “Seiber Feddyg” wedi cyrraedd!
Cofleidiwch “newid”, a pheidiwch â bod ofn.



