Skip to content

Fy mrofiad i o astudio rhan o fy ngradd yn yr iaith Gymraeg, a’r lles mae wedi gael ar fy swydd

featured amy james
featured amy james

 

Fy enw yw Amy James a graddiais o Brifysgol Metropolitan Caerdydd . Cefais wybod am y siawns o astudio rhan o’r radd yn Gymraeg pan es i ddiwrnod agored yn y brifysgol. Roedd hwn yn newyddion gwych ac yn help mawr pan benderfyni pa brifysgol i fynd i.

 

Cam mawr oedd symud o orllewin Cymru i’r brif ddinas ond oeddwn yn gwybod bydden mewn cwmni da gyda chriw o fyfyrwyr Cymraeg eraill. Yn yr wythnos gyntaf daeth y cyfle i gwrdd â’r darlithwyr fyddai’n dysgu’r pynciau yn Gymraeg a hefyd y myfyrwyr eraill o’r un flwyddyn. Roedd pawb yn gyfeillgar felly oeddwn yn falch o’r penderfyniad wnes i i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Roedd cwblhau rhan o’r radd yn Gymraeg yn fantais fawr iddau gan ei fod wedi rhoi’r siawns i mi gryfhau fy sgiliau iaith Cymraeg a hefyd gan fod y dosbarthiadau yn llai roedd mwy o gymorth i gael o’r tiwtoriaid. 

 

Roedd y gallu i siarad Cymraeg ac astudio yn Gymraeg yn ddeniadol i gyflogwyr ac yn bendant wedi gweithio er y fantais wrth geisio am swyddi. Braint oedd cael cynnig swydd yn y Royal Mint mewn rôl Marchnata a Chyfathrebu. Rwyf wrth fy modd cael cyfle i weithio i sefydliad a ddechreuwyd dros fil o flynyddoedd yn ôl ac i gwmni sydd yn cyffwrdd bywydau pawb yn y Deyrnas Unedig pob dydd.

 

Rwyf wedi gweithio yn y Royal Mint am ddwy flynedd ac yn rhan o’r dim Cysylltiadau Cyhoeddus yn gweithio ar nifer o brosiectau. Mae cyfathrebu yn Gymraeg yn fantais enfawr yn y swydd ac mae wedi caniatáu i mi adeiladu perthnasoedd cryf iawn gyda newyddiadurwyr Cymraeg a darparu cefnogaeth werthfawr mewn unrhyw gyfathrebu a’r cyhoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Rhoddodd astudio yn Gymraeg yn Brifysgol Fetropolitan Caerdydd y sylfaen gorau i mi ar gyfer fy ngyrfa heb sôn am adael i mi greu ffrindiau am oes. Pe bai rhaid i mi roi cyngor i fyfyrwyr sydd yn meddwl am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu ddim yn siŵr os dyle nhw astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, Byddwn i’n dweud wrthyn nhw neud e – ni fyddwch yn difaru!!