Skip to content

Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Artist Ddylunydd: Gwneuthurwr

llio davies featured
llio davies featured

Helo! Llio ydw a dwi wedi graddio ar y cwrs BA Artist Dylunydd: Gwneuthurwr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Un o’r prif resymau dewisais y cwrs yma oedd ei hyblygrwydd, ar y pryd nid oeddwn yn siŵr pa fath o ddeunydd nac dulliau roeddwn eisiau arbenigo mewn cyn dod i’r brifysgol.

Tra yng Ngholeg Meirion Dwyfor lle roeddwn yn astudio cwrs sylfaen Celf a Dylunio, roeddwn yn arbenigo mewn gwaith organig yn defnyddio copr.
Rwyf bellach yn arbenigo mewn dylunio drwy ddefnyddio cyfrifiadur a chreu gwaith cymesur allan o Cerameg, diddorol sut mae newid ar ein hamgylchedd yn newid trywydd ein gwaith!

, Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Artist Ddylunydd: Gwneuthurwr, CARDIFF MET BLOGS
Gwaith cerameg yn fy nhrydydd flwyddyn
, Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Artist Ddylunydd: Gwneuthurwr, CARDIFF MET BLOGS
Gwaith terfynnol tymor cyntaf y trydydd flwyddyn.

Roeddwn hefyd eisiau dewis prifysgol yng Nghymru gan fy mod wedi cael fy nysgu yn y Gymraeg erioed, rwyf lawer mwy hyderus yn cyfathrebu fy ngwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dwi wedi bod yn lwcus o gael cymuned cryf o fyfyrwyr eraill yn siarad Cymraeg yn ddyddiol ar y cwrs, o ganlyniad rwyf wedi teimlo yn gartrefol iawn ar y cwrs ers y diwrnod cyntaf. Dwi wedi bod yn lwcus o gael tiwtor personol Cymraeg sydd hefyd wedi dysgu agweddau o’r cwrs i mi.

, Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Artist Ddylunydd: Gwneuthurwr, CARDIFF MET BLOGS
Dysgu dulliau newydd o greu yng Nghaerffili yn ystod prosiect celf gynaliadwy

Drwy ddefnyddio’r pren yma, fe wnes i silff yn defnyddio dull plygu a stem sydd yn galluogi i’r pren troi i onglau anghyffredin. Mae’n grêt ein bod wedi cael dechrau gwneud cysylltiadau gyda busnesau Cymraeg, yn enwedig os rydym am aros yng Nghaerdydd ar ôl graddio.

, Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Artist Ddylunydd: Gwneuthurwr, CARDIFF MET BLOGS
Fy nghwaith cerameg yn arddangosfa Wrexham

Rydym wedi cael cymaint o gyfleoedd trwy’r cwrs, fy hoff brofiad oedd mynd am wythnos i La Pedrix ger Ribérac yn Ffrainc ar Ceramics retreat! Ble buom ni’n dysgu dulliau o greu yn defnyddio clai, roeddem allan yn yr ardd yn yr haul drwy’r bore, tra yn y prynhawn byddem yn ymweld ar farchnad leol neu nofio yn yr afon i ymlacio ar ôl diwrnod caled o waith!

, Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Artist Ddylunydd: Gwneuthurwr, CARDIFF MET BLOGS
Gwirfoddoli yn yr Eisteddfod

Y cyfle diweddaraf gefais oedd prosiect byw fel rhan o gystadleuaeth Orangebox, Perch ac W2W sydd yn fusnesau sydd yn arbenigo mewn cynnyrch swyddfeydd.

Y briff oedd dylunio cynnyrch a fysai’n helpu ni yn ein hamgylchedd gwaith drwy ganolbwyntio ar effeithiau iechyd meddwl. Dyluniais ‘ZenG’ sydd yn gynnyrch i helpu ni fyfyrio mewn unrhyw gweithle. Cefais y pleser o gael fy ngwahodd i Ddulyn gyda myfyrwyr Celf eraill oedd wedi bod yn llwyddiannus yn y seremoni wobrwyo. Treulion ni y noson mewn tafarndai Gwyddelig yn dathlu ein llwyddiant!

, Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Artist Ddylunydd: Gwneuthurwr, CARDIFF MET BLOGS
Dyluniad ZenG i gystadleuaeth yn Nulyn.

Dwi wedi disgyn mewn cariad gyda’r ddinas yng Nghaerdydd, mae hi mor gyfeillgar ac yn llawn cyfleoedd. Ers symud o’r Gogledd i’r De rwyf yn teithio i bobman ar feic, mae fy nhaith i brif ysgol ar y llwybr Taf bob bore yn brydferth a llawer cyflymach nac unrhyw ffordd arall o deithio!

, Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Artist Ddylunydd: Gwneuthurwr, CARDIFF MET BLOGS
Golygfa hyfryd yn seiclo i brifysgol llwybr Taff

Drwy’r brif ysgol rwyf wedi dod ar draws nifer o fusnesau a chymunedau creadigol. Dwi bellach yn gwirfoddoli yn Printhaus sef cymuned greadigol sydd yn arbenigo mewn printio sgri fel cynorthwyydd gweithdy Cymraeg. Yn ogystal a hyn dwi wedi a hyn dwi wedi cael profiad yn gwirfoddoli yn Chapter, canolfan diwylliannol sydd yn cynnwys arddangosfeydd, perfformiadau a ffilmiau rhyngwladol.

Dwi hefyd yn gweithio i Radio Cymru ar benwythnosau sydd yn brofiad anhygoel, mae ddigonedd o gyfleoedd Cymraeg yma i’ch cadw yn brysur!

, Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Artist Ddylunydd: Gwneuthurwr, CARDIFF MET BLOGS
Ar BBC Radio Cymru gyda Sian Cothi  yn cael sgwrs am fy ngwaith i wneud a golau!