Skip to content

Bywyd ar ôl y brifysgol: Creu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Gwenan Haf Jones
Gwenan Haf Jones

Helo! Fy enw i yw Gwenan Haf Jones a graddiais o’r cwrs Artist Ddylunydd: Gwneuthurwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2016. Enillais brofiadau a sgiliau gwych yn y brifysgol wnaeth fy mharatoi at fyd gwaith. Dwi’n gweithio llawn amser mewn gweithdy gwaith coed cain cwmni Celfiderw yn Maerdy, Corwen.

Eleni cefais y fraint o gael dylunio a chreu cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. Yn dilyn Bethan Grey, fi oedd yr ail ferch i ddylunio cadair Eisteddfod Genedlaethol ond y ferch cyntaf i’w chreu.

, Bywyd ar ôl y brifysgol: Creu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019., CARDIFF MET BLOG

Mae’r cwrs yn agored ac yn rhoi amryw o gyfleoedd i fyfyrwyr, dewis eang o ddefnyddiau i weithio gyda sydd yn cynnig bob math o sgiliau i unigolion arbrofi gyda, cyn arbenigo yn y drydedd flwyddyn.

Yn ystod fy amser ar y cwrs arbrofais gyda resin, gwaith coed, castio a modwldio, creu bocs goleuo, tecstiliau ac meddalweddau CAD i enwi dim ond llond llaw o’r abrofion a gwnes i yn yr holl weithdai. Yn y drydedd flwyddyn arbenigais mewn gwaith pren, mae gen i angerdd tuag at weithio gyda pren. Penderfynais i ail fynllunio y ddresel gymreig gyda technegau cyfoes i gwsmeriaid dodrefn 2016.

Mae arweinwyr y cwrs ac darlithwyr yn yr ysgol gelf yn annog a helpu, hefyd byddent ync westiynnu eich bwriad gyda eich prosiectau ond mae eu mewnbwn yn agor gorwelion eich meddwl sy’n wych.

Er nad yw holl ddarlithwyr yr ysgol gelf yn siarad cymraeg, mae tiwtoriaid cymraeg yn cael eu penodi i chi. Mae modd trafod pob peth drwy’r gymraeg gyda nhw am unrhyw ddarn o’r cwrs ac fel siaradwr cymraeg iaith gyntaf roedd hyn yn ryddhad mawr i mi.

Cefais waith yn nghwmni Celfiderw haf 2016 arol graddio, y cwmni roeddwn wedi anelu gweithio i yn ystod paratoi at fyd gwaith yn y drydydd flwyddyn.

Gan nad oeddwn wedi arbenigo mewn gwaith coed traddodiadol dechreuais i weithio yn y gweithdy. Wrth ddysgu y manylion a enill sgiliau i gymeryd tasgiau mwy ymlaen a meistroli teclynau llaw traddodiadol fel cynion a plaen i siapio pren a magu dealltwriaeth cryfach o weithio gyda pren.

Dechreuais i ddysgu gorffennu cynnyrch y cwmni, golygai hyn paentio i’r safon uchaf, defnyddio laquer i orffennu pren ac hefyd defnyddio staen i liwio pren ac ail-gynhyrchu dodrefn “antique”.

, Bywyd ar ôl y brifysgol: Creu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019., CARDIFF MET BLOG

Wrth enill sgiliau traddodiadol gwaith coed cain o’r gwethdy, a sgiliau o orffennu cynnyrch yn broffesiynnol ac eu cyfuno gyda fy nhechnegau cyfoes o greu a ddylunio o’r brifysgol daeth Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.