Helo! Fy enw i yw Imogen a dwi newydd ddechrau yn fy nhrydydd flwyddyn yn astudio ar y cwrs israddedig Astudiaethau Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Penderfynais i astudio’r cwrs yma yn y brifysgol ar ôl i mi gwblhau cyfnod o brofiad gwaith o fewn lleoliad addysg gynradd pan o’n i yn yr ysgol. Ar ôl mwynhau y profiad hyn roeddwn i’n gwybod yn union taw hwn oedd y llwybr roeddwn i am ddilyn – des i ar ddiwrnod agored a phenderfynais taw fan hyn oedd y brifysgol roeddwn i eisiau mynychu i barhau gyda fy addysg.
Ar ôl i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ymweld â’r ysgol pan oeddwn i yn y chweched dosbarth i sôn am yr holl gyfleoedd oedd ar gael i astudio trwy’r Gymraeg, es i ati i ymgeisio ar gyfer yr ysgoloriaeth.
Roedd y bwriad i astudio trwy’r Gymraeg yn gam naturiol i mi oherwydd dwi wedi derbyn fy holl addysg drwy’r Gymraeg ers i mi fod yn ddwy flwydd oed, ac roedd y syniad o allu cwblhau aseiniadau o fewn y Gymraeg neu’r Saesneg yn apelio ata i am fy mod i’n teimlo’n lot fwy cyfforddus yn ysgrifennu a thrafod drwy’r Gymraeg.
Mae astudio drwy’r Gymraeg yn beth gwych. Un o’r pethau gorau yw’r perthnasau agos rydych chi’n ffurfio gyda’ch tiwtoriaid a hefyd gyda’ch cyfoedion. Mae’r ffaith bod y grwpiau Cymraeg yn dueddol o fod yn hynod yn llai nag y grwpiau Saesneg (dim ond 12 ohonom ni yn ein grŵp Cymraeg!) wedi cynyddu fy hyder trwy ofyn digon o gwestiynau o fewn seminarau.! Mae’r tiwtoriaid yn hynod o gefnogol a wastad yn barod i wneud un rhywbeth posib i’n helpu a sicrhau ein bod ni’n llwyddo.
Dwi ar hyn o bryd yn cwblhau lleoliad o fewn ysgol gynradd Gymraeg lleol ac dwi wrth fy modd!